Gwyn Griffiths
Awdur, cyfieithydd a newyddiadurwr Cymreig oedd Morgan Gwynfor Griffiths, adwaenid fel Gwyn Griffiths (11 Ionawr 1941 – 29 Ebrill 2018)[1][2][3]. Fe'i ganwyd yn Swyddffynnon, Tregaron. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Tregaron a Phrifysgol Caerdydd. Am gyfnod roedd yn drefnydd yr Urdd yn Sir Benfro. Wedyn bu'n newyddiadurwr gyda'r – Western Telegraph, County Echo a'r Cymro. Cyfrannodd erthyglau i’r Daily Post a chyflwynodd raglenni radio. Ymddiddorodd yn y Llydaweg a Llydaw a chyd-gyfieithodd Dramâu o’r Llydaweg gan Tangi Malmanche.
Gwyn Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1941 Swyddffynnon |
Bu farw | 29 Ebrill 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, cyfieithydd, newyddiadurwr |
Roedd diddordeb arbennig ganddo yn y Sioni Winwns gan ysgrifennu llyfrau, erthyglau, gwneud rhaglenni ac yn y diwedd creu amgueddfa iddynt yn 1995. Cyhoeddodd The Turn of the Ermine yn 2006 ar y cyd gyda Jacqueline Gibson o Brifysgol Aberystwyth; antholeg mwya o'r Llydaweg yn y Saesneg erioed. Yn 2017 cyd-olygodd ganllaw i lenyddiaeth Cymru, The Old Red Tongue- An Anthology of Welsh literature gyda Meic Stephens.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Gwen ac roedd ganddynt pedwar o blant.
Cyhoeddiadau
golygu- Wês Wês (cyd-olygydd) (Gwasg Gomer, 1976)
- Crwydro Llydaw (Christopher Davies, 1977)
- Wês Wês – Wêth (cyd-olygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1978)
- Y Shonis Olaf (Gwasg Gomer, 1981)
- Dramâu o’r Llydaweg (cyd-gyfieithydd) (Christopher Davies, 1982)
- Wês Wês - Shwrne ’to (golygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1982)
- Goodbye Johnny Onions (Dyllansow Truran, 1987)
- Llew a’r Llygod Llydewig (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
- Leisa a Morris o’r Môr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
- Ewythr Barti y Môr-leidr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1994)
- Draig yn y Cwpwrdd (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1995)
- Wês Wês Pentigily (golygydd) (Gwasg Gomer, 1994)
- Llydaw - Ei Llên a'i Llwybrau (Gwasg Gomer, 2000)
- Sioni Winwns (Carreg Gwalch, 2002)
- The Last of the Onion Men (Carreg Gwalch, 2002)
- Le Monde des Johnnies (Le Telegramme, 2002)
- The Turn of the Ermine (cyd-olygydd a chyd-gyfieithydd gyda Jacqueline Gibson) (Francis Boutle Publishers, 2006)
- Gwlad Fy Nhadau (Carreg Gwalch, 2006)
- Land of my Fathers (Carreg Gwalch, 2006)
- Cerddi Evan James - Poems by Evan James (Gwasg Gwalch, 2009)
- Henry Richard - Apostle of Peace and Welsh Patriot (Francis Boutle, 2012)
- Henry Richard - Heddychwr a Gwladgarwr (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013)
- Ar Drywydd Stori, Atgofion Newyddiadurwr o Geredigion (Y Lolfa, 2015)
- The Old Red Tongue- An Anthology of Welsh literature (cyd-olygydd gyda Meic Stephens) (Francis Boutle, 2017)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofio'r awdur a'r newyddiadurwr Gwyn Griffiths , BBC Cymru, 29 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2018.
- ↑ Manylion angladd; Facebook[dolen farw]
- ↑ "Doyen of Welsh culture Gwyn Griffiths dies (1941-2018)". Morning Star (yn Saesneg). 2018-08-09. Cyrchwyd 2018-11-12.