Rhaglen drafod pêl-droed ar BBC Radio Cymru yw Ar y Marc a ddechreuodd ar 4 Ionawr 1992. Fe'i darlledir ar fore Sadwrn a'r cyflwynydd ers y rhaglen gyntaf yw Dylan Jones.

Ar y Marc
GenreChwaraeon
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
GorsafBBC Radio Cymru
Cyflwynydd(wyr)Dylan Jones
Dyddiadau darlleduers 4 Ionawr 1992
Podlediadbbc.co.uk/radiocymru

Hanes golygu

Y cynhyrchydd, Geraint Elis, oedd yn gyfrifol am y syniad ac fe ddarlledwyd y rhaglen gyntaf ar y bore Sadwrn cyn buddugoliaeth enwog Wrecsam dros Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr. Yn ogystal â phêl-droed roedd y rhaglen yn wreiddiol yn trafod campau gwahanol gyda Dylan Llewelyn yn banelydd parhaol a chyda Bryn Tomos yn adolygu tudalenau chwaraeon y papurau newydd.

Penderfyniad y cynhyrchydd Dylan Wyn oedd cael y rhaglen i drafod pêl-droed yn unig ac ym 1996 ymunodd Aled Jones-Griffiths a Gary Pritchard fel panelwyr parhaol gyda'r papurau newydd yn cael eu hadolygu gan nifer o wahanol westeion gan gynnwys Iola Wyn, Glyn Griffiths, Sion Tecwyn ac Orig Williams. Yn 2000 dychwelodd Dylan Llewelyn i'r rhaglen gan ymuno â Gary Pritchard fel y panelwyr parhaol cyn i'r rhaglen newid eto yn 2010 i ddefnyddio cyfres o wahanol banelwyr gan gynnwys cyn is-reolwr Cymru, Osian Roberts. Bellach mae mwy fyth o banelwyr wedi ymuno â’r garfan gan gynnwys Meilir Owen, Ywain Gwynedd, Nicky John, Owain Tudur Jones, Iwan Arwel, Ian Gill a Sioned Dafydd.

Ac wrth i Gymru gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros ym Mehefin 2016, bu Dylan Jones a'r criw ynghanol y cefnogwyr yn darlledu o Ffrainc.

Dolennau allanol golygu