Osian Roberts
Hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Osian Roberts sydd yn is-reolwr Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru[1] ers 21 mis Gorffennaf 2015.[2]
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Man geni | Sir Fôn, Cymru | ||
Safle | Canolwr cae canol | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Cymru (is-reolwr) | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
Dinas Bangor | |||
Prifysgol Furman | |||
New Mexico Chiles | |||
Timau a Reolwyd | |||
New Mexico Chiles | |||
1996–1999 | Cymru dan-16 | ||
1996–1999 | Cymru dan-18 | ||
1999 | Cymru B | ||
1999–2007 | Porthmadog | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Roberts ar Ynys Môn,[3] a magwyd ef ym Modffordd.
Mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni.[4] Roedd yn bêl-droediwr talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru. Yn 1985 derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed, i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau.
Teledu
golyguDarlledwyd cyfres ddogfen deledu o'r enw Byd Pêl-droed Osian Roberts ar S4C yn 2014.[5][6]
Anrhydeddau
golyguAr 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor[7] yr oedd eisoes wedi derbyn Cymrodorion Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[8]
Yn 2017 cafodd ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 a chafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd.
Llyfryddiaeth
golyguYn 2016 cyhoeddwyd ei hunangofiant Môn, Cymru a’r Bêl gan gwmni’r Lolfa [9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36746432
- ↑ http://www.bbc.co.uk/sport/football/33612989
- ↑ "Osian's a football power in Wales". Wales Online. 24 Mehefin 2007. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014. Unknown parameter
|iaith=
ignored (help) - ↑ "Byd Pêl-droed Osian Roberts". S4C. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
- ↑ http://www.s4c.cymru/ffeithiol/e_byd-pel-droed-osian.shtml
- ↑ http://www.bbc.co.uk/programmes/p02rv1yh
- ↑ Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).
- ↑ Osian Roberts yw Llywydd yr Wyl 2017[dolen farw] adalwyd 20 awst 2017
- ↑ Gwales Môn, Cymru a'r Bêl Osian Roberts, Lynn Davies, Y Lolfa, Mawrth 2016 ISBN 9781784612276