Aradia, or the Gospel of the Witches
Llyf a ysgrifennwyd ym 1899 gan Charles Godfrey Leland yw Aradia, or the Gospel of the Witches ("Aradia, neu Efengyl y Gwrachod"). Cais yw'r llyfr i bortreadu credoau a defodau traddodiad o wrachyddiadthna grefyddol gudd yn Nhoscana, Yr Eidal. Dywedodd Leland fod y traddodiad hwnnw wedi goroesi am ganrifoedd nes iddo gael ei ddarganfod yn y 1890au, ond mae ysgolheigion wedi dadlau geirwiredd y datganiad hwn. Serch hynny, daeth y llyfr yn un o destunau sylfaenol yn Wica a Stregheria, mudiadagwrachyddiaeth h Neo-baganaidd.
Tudalen flaen yr argraffiad gwreiddiol a gyhoeddwyd ym 1899 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Charles Godfrey Leland |
Cyhoeddwr | David Nutt |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 1899 |
Dechrau/Sefydlu | 1897 |
Genre | Llên gwerin, Dewiniaeth |
Cymeriadau | Aradia |
Prif bwnc | llên gwerin, gwrachyddiaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Mae'r llyfr ei hun yn gyfansawdd, am fod rhai darnau yn gyfieithiadau gan Leland o'r llawysgrif Eidaleg wreiddiol (y Vangelo, sef 'efengyl') i'r Saesneg. Dywedodd Leland ei fod wedi cael y llawysgrif oddi wrth rywun a oedd yn ymarfer gwrachyddiaeth yr Eidal, gwraig o'r enw "Maddalena" yn ôl Leland. Daw gweddill y cynnwys yn sgil ymchwil Leland ar lên gwerin a thraddodiadau'r Eidal, gan gynnwys deunyddiau eraill gan Maddalena. Roedd Leland yn ymwybodol o fodolaeth y Vangelo ers 1886, ond aeth un ar ddeg mlynedd heibio cyn iddo gael copi o'r llyfr oddi wrth Maddalena. Wedi cyfieithu a golygu'r cynnwys, roedd yn ddwy flynedd ychwanegol cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi. Mae ei bymtheg pennawd yn portreadu tarddiadau, credoau, defodau, a swynion y traddodiad gwrachyddiaeth Baganaidd Eidalaidd. Y dduwies Aradia yw prif gymeriad y grefydd honno, a ddaeth i'r Ddaear i addysgu gwrachyddiaeth i'r werin bobl er mwyn iddyn nhw wrthwynebu eu gormeswyr ffiwdal a'r Eglwys Gatholig Rufeinig.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Aradia, or the Gospel of Witches - Internet Archive
- Aradia, or the Gospel of Witches - Internet Sacred Text Archive (fersiwn HTML)
- Aradia Archifwyd 2010-04-05 yn y Peiriant Wayback, erthygl ynglŷn â gwrachyddiaeth Eidalaidd.