Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Cyhoeddwyd y cylchgrawn fwy neu lai yn ddi-dor dan wahanol enwau a gwahanol olygyddion ac yn enw gwahanol gwmnïau. Un o'r golygyddion mwyaf mentrus oedd [[Eirug Wyn]] a aeth i gryn drafferthion ariannol yn sgil stori a gyhoeddodd am berthynas cwmni teledu arbennig ag [[S4C]]. Yn nodweddiadol, roedd wedi gwrthod ymddiheuro am gynnwys y stori.
 
Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw '''''Dim Lol''''', dan olygyddiaeth Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd ''Lol'' dan ei enw gwreiddiol - ond mewn diwyg newydd, llawn-lliw - ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010, a dawdaeth rhifyn arall allan eleni. Caiff y ''Lol'' newydd ei gyhoeddi gan gwmni newydd, Cwmni Drwg Cyfyngedig.
 
Mae ''Lol'', o dan ei wahanol enwau, yn gwerthu tua 4,000 copi y flwyddyn, a hynny heb unrhyw gymorth ariannol gan y llywodraeth — un o'r ychydig iawn o gylchgronau Cymraeg a all honni hynny.