Summer of Love: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ymestynnodd '''Haf Cariad''' neu '''The Summer of Love''' dros gyfnod haf [[1967]] pan ddaeth tua 100,000 o bobl ifanc, yn bennaf [[Hipi|hipis]] o ran eu gwisg a’u hymddygiad, i ardal Haight-Asbury yn [[San Francisco]].<ref>E. Vulliamy, [http://observer.guardian.co.uk/omm/story/0,,2080202,00.html "Love and Haight"], ''Observer Music Monthly'' May 20, 2007</ref><ref>P. Braunstein, and M.Doyle (eds), ''Imagine Nation: The American Counterculture of the 1960s and '70s'', (New York, 2002), p.7</ref>
 
Roedd hwn yn fath o arbrawf cymdeithasol lle gwnaeth pobl a oedd yn credu mewmewn gwerthoedd hipi ddod at ei gilydd i ddathlu ac i rannu eu gwerthoedd. Roedd y gwerthoedd a’r daliadau hyn yn golygu byw bywyd yr hipi gan wrando ar gerddoriaeth hipi, defnyddio [[Cyffur|cyffuriau]], coleddu agwedd gwrth-ryfel a chredu mewn cariad rhydd. Roedd yn ffordd o fyw a oedd yn boblogaidd o arfordir gorllewinol America draw hyd at [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]].<ref>P. Braunstein, and M.Doyle (eds), ''Imagine Nation: The American Counterculture of the 1960s and '70s'', (New York, 2002), p.7</ref>
 
Roedd ‘Plant y Blodau’, fel roedd hipis yn cael eu hadnabod hefyd, yn ddrwgdybus o’r Llywodraeth, ac wedi colli ffydd yn yr awdurdodau a ffordd o fyw eu rhieni, a oedd yn cael eu gweld fel rhan o’r drefn draddodiadol. Roeddent yn gwrthod gwerthoedd materol cymdeithas modern ac yn feirniadol o ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn [[Rhyfel Fietnam]]. Ymddiddorai eraill mewn cerddoriaeth, arlunio, [[llenyddiaeth]] a [[barddoniaeth]] neu mewn crefyddau ac arferion gwahanol.
Llinell 21:
 
== Gwyliau awyr agored ym Mhrydain ==
Gwnaethpwyd sawl ymgais nodedig i gynnal gwyliau am ddim yn y Deyrnas Unedig hefyd. Cynhaliodd ''[[The Rolling Stones]]'' gyngerdd awyr agored am ddim i 250,000 o gefnogwyr yn Hyde Park, Llundain, ym mis Gorffennaf 1969 – hon oedd y sioe gyntaf gyda’r gitarydd newydd Mick Taylor, ac fe wnaeth y prif ganwr Mick Jagger ddarllen rhywfaint o farddoniaeth a rhyddhau glöynnodgloÿnnod byw gwyn er cof am gyn-aelod o’r band, Brian Jones, a fu farw ychydig ddiwrnodau ynghynt.
 
Dechreuodd Gŵyl Ynys Wyth yn 1968, ac erbyn mis Awst 1970 cafwyd cynulleidfa o 600,000 o bobl yno; roedd y digwyddiad yn cynnwys dros hanner cant o berfformiadau cerddorol gan bobl fel ''The Who'', ''Jimi Hendrix'' a ''[[The Doors]]''.