Blodwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Yn dilyn y perfformiad cyntaf yn Aberystwyth aethpwyd â Blodwen ar daith yn siroedd [[Morgannwg]] a [[Mynwy]], a chafodd ei llwyfannu gan y '[[Welsh Representative Choir]]' ym [[Bryste|Mryste]] ac yn [[Alexandra Palace]] yn [[Llundain]].
 
Cafodd yr opera dderbyniad gwresog; ‘roedd y gerddoriaeth yn rhywbeth mor newydd a dieithr fel bod y bobl yn gwirioni'n lân arni. Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf ynyng ngogledd Cymru gan ‘[[Gôr Mawr y De]]’ yn [[Eisteddfod]] [[Llanrwst]] ym mis Awst 1878, ac ar ôl y perfformiad hwnnw dywedodd gohebydd ar dudalennau [[Y Faner]] taw Blodwen oedd y ‘darn cerddorol mwyaf swynol' y bu'n gwrando arno erioed! Erbyn haf 1879 ymffrostiai'r cyfansoddwr bod yr opera wedi cael ei llwyfannu tua hanner cant o weithiau, a'r un pryd dywedai mai ei nod a'i uchelgais oedd trefnu perfformiad ohoni 'gyda gwisgoedd ac ymddangosiad priodol'. Digwyddodd hynny yn [[Aberdâr]] ar Ragfyr 26, 1879. Pryd y perfformiwyd y gwaith gan [[Undeb Corawl Aberdâr]] dan [[arwiniad]] [[Rees Evans]].
 
==Crynodeb==