John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
 
==Gyrfa==
Ar farwolaeth ei dad ym 1807 etifeddodd John ran ei dad yng Ngwaith Haearn Dowlais gan ddod yn berchennog mwyafrifol y gwaith ym 1815 a'i llwyr berchennog ym 1849. Llwyddodd i gynyddu allbwn y cwmni yn sylweddol o 5 mil tunnell o haearn ym 1806 i 75 mil tunnell ym 1849. O ganol y 1830au i ddiwedd y 1840au roedd gwaith Dowlais ar ei hanterth. Erbyn 1845 roedd yno deunaw ffwrnais (y nifer cyfartalog ar gyfer gwaith haearn oedd tri), gyda phob un yn cynhyrchu dros gant o dunelli bob wythnos. Roedd y safle yn cwmpasu 40 erw a'r gweithlu yn rhifo mwy na saith mil. Cafodd ail waith, ''Gwaith Ifor'' (wedi ei enwi ar ôl ei fab hynaf) ei godi ym 1839 ar gost o £ 47,000. Gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd yn ehangu trwy'r byd llwyddodd y cwmni i ennill contractau yng ngwledydd Prydain a thu hwnt, yn arbennig yn yr [[Almaen]], [[Rwsia]], ac [[Unol Daleithiau America]]. Ym 1844, er enghraifft, enillwyd archeb ddigynsail am 50,000 o dunelli o gledrau i Rwsia.
 
Roedd Guest yn flaengar yn ei ddefnydd o'r darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd cemeg a pheirianwaith ac yn ymgysylltu â ffigyrau allweddol mewn datblygiad gwyddonol a thechnolegol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol yn 1818 a'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]] ym 1830. Ym 1834 daeth yn aelod cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
 
Roedd ei ddiddordebau busnes yn cynnwys pyllau glo yn [[Fforest y Ddena]] ac ef oedd cadeirydd cyntaf Cwmni Rheilffordd Cwm Taf. Roedd hefyd yn dirfeddiannwr gydag ystadau yn [[Drenewydd yn Notais|Nhrenewydd yn Notais]] a Canford Manor ger [[Wimborne]], [[Dorset]]<ref>“Guest, Sir (Josiah) John, first baronet (1785–1852),” Angela V. John yn Oxford Dictionary of National Biography, ed. H. C. G. Matthew and Brian Harrison (Oxford: OUP, 2004); online ed., ed. Lawrence Goldman, May 2008, [http://www.oxforddnb.com/view/article/11716] adalwyd 1 Medi, 2015 trwy docyn darllenydd LLG</ref>
 
==Gyrfa Wleidyddol==