Hypnerotomachia Poliphili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{teitl italig}} {{Pethau| fetchwikidata = ALL}} Stori alegorïaidd o'r traddodiad dyneiddiol y Dadeni yw ''...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
Mewn breuddwyd o fewn breuddwyd mae nymffau yn mynd ag ef i gwrdd â Eleuterylida, eu brenhines, ac yno gofynnir iddo ddatgan ei gariad at Polia. Mae dwy nymff yn gofyn iddo ddewis rhwng tri llidiart. Mae'n dewis y trydydd, ac yno mae'n darganfod ei gariad. Fe'u cymerir gan nymffau eraill i deml er mwyn iddynt gael eu dyweddïo i'w gilydd. Ar y ffordd maen nhw'n dod ar draws pum gorymdaith orfoleddus i ddathlu eu huniad. Fe'u cludir i ynys Cythera mewn cwch wedi'i lywio gan [[Ciwpid]]. Ar yr ynys maen nhw'n gweld gorymdaith orfoleddus arall. Torrir ar draws yr adroddiant, ac mae Polia yn disgrifio cariad Poliphilo tuag ati o'i safbwynt ei hun.
 
Mae Poliphilo yn ailafael yn ei adroddiant. Mae Polia yn g wrthodgwrthod ei garwriaeth, ond mae Ciwpid yn ymddangos iddi mewn gweledigaeth ac yn ei gorfodi i ddychwelyd a chusanu Poliphilo, sydd wedi llewygu wrth ei thraed. Mae ei chusan yn ei adfywio. Mae [[Gwener (duwies)|Gwener]] yn bendithio eu cariad, ac mae'r pâr yn cael eu huno o'r diwedd. A Poliphilo ar fin cymryd Polia yn ei freichiau, mae hi'n diflannu ac mae ef yn deffro.
 
==Dolenni allanol==