John Logie Baird: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''John Logie Baird''' ([[13 Awst]] [[1888]] – [[14 Mehefin]] [[1946]]) yn ddyfeisiwr, peiriannydd trydanol ac arloeswr o'r Alban. Ef wnaeth arddangos y system [[Teledu|deledu]] weithredol gyntaf y byd ar [[26 Ionawr]] [[1926]]. Dyfeisiodd hefyd y system deledu lliw gyntaf a arddangoswyd yn gyhoeddus, a'r tiwb lluniau teledu lliw electronig cyntaf un. <ref>{{Cite web|title=Baird, John Logie (1888–1946), television engineer|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-30540;jsessionid=711273D6DE7A8EDF42C7E2254E661E77|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-10-18|doi=10.1093/ref:odnb/30540|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
Dyfeisiwr [[Yr Alban|Albanaidd]] oedd '''John Logie Baird''' ([[13 Awst]] [[1888]] – [[14 Mehefin]] [[1946]]). Roedd yn gyfrifol am ddyfeisio [[teledu]].
 
==Cefndir==
Ganwyd yn [[Helensburgh]].
Ganwyd Baird yn Helensburgh, Swydd Dunbarton, yr ieuengaf o bedwar o blant y Parchedig John Baird, gweinidog Eglwys yr Alban, a Jessie Morrison Inglis, nith amddifad teulu cyfoethog o adeiladwyr llongau o Glasgow.
 
Derbyniodd ei addysg yn Academi Larchfield (sydd bellach yn rhan o Ysgol Lomond ) yn Helensburgh; Coleg Technegol Glasgow a Gorllewin yr Alban a Phrifysgol Glasgow. <ref>{{Cite book|edition=|title=Chambers biographical dictionary.|url=https://www.worldcat.org/oclc/13665413|publisher=Chambers|date=1984|location=Caeredin|isbn=0-550-16010-8|oclc=13665413|others=|last=|first=|year=|pages=|editor-last=Thorne|editor-first=J. O.|editor-last2=Collocott|editor-first2=T. C.}}</ref> Tra yn y coleg ymgymerodd Baird â chyfres o swyddi prentis peirianneg fel rhan o'i gwrs. Amharodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gwrs gradd ac ni ddychwelodd i raddio.
 
==Gyrfa==
Ar ddechrau 1915 gwirfoddolodd am wasanaeth yn y Fyddin Brydeinig ond fe'i dosbarthwyd yn anaddas ar gyfer dyletswydd weithredol. Gan fethu â mynd i'r Ffrynt, cymerodd swydd gyda Chwmni Pŵer Trydanol Clyde Valley, a oedd yn ymwneud â gwaith arfau rhyfel.
 
Ar ddiwedd y rhyfel dechreuodd busnes gwerthu sanau thermol o'i ddyfeisied ei hun <ref>{{Cite web|title=Helensburgh Heritage Trust - The famous Baird Undersocks|url=http://www.helensburgh-heritage.co.uk/index.php?option=com_content&view=article&id=847:the-famous-baird-undersocks&catid=108:john-logie-baird&Itemid=457|website=www.helensburgh-heritage.co.uk|access-date=2020-10-18|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Ym 1919 aeth i Drinidad lle agorodd ffatri jam i wneud defnydd o 'r ffrwythau niferus oedd yn tyfu ar yr ynys. <ref>{{Cite web|title=John Logie Baird - Inventions, Facts & TV - Biography|url=https://www.biography.com/inventor/john-logie-baird|website=www.biography.com|access-date=2020-10-18}}</ref> Yn anffodus wnaeth pryfed yr ynys difetha ei gynnyrch trwy farw yn y crewynnau coginio. Dychwelodd i wledydd Prydain a dechreuodd arbrofi gyda theledu.
 
Cafodd ei lwyddiant cyntaf ym 1924 <ref>{{Cite web|title=John Logie Baird {{!}} British inventor|url=https://www.britannica.com/biography/John-Logie-Baird|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2020-10-18|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> pan ddarlledodd llun o groes i dderbynnydd 10 troedfedd i ffwrdd. Rhoddodd Baird yr arddangosiad cyhoeddus cyntaf o ddelweddau silwét symudol ar y teledu yn siop adrannol Selfridges yn Llundain mewn cyfres tair wythnos o arddangosiadau a ddechreuodd ar 25 Mawrth 1925. Yn ei labordy ar 2 Hydref 1925, trosglwyddodd Baird y llun teledu cyntaf yn llwyddiannus gyda delwedd graddfa lwyd: pen dymi tafleisydd o'r enw "Stooky Bill" mewn delwedd 30 llinell wedi'i sganio'n fertigol, ar bum llun yr eiliad. Aeth Baird i lawr y grisiau a nôl gweithiwr swyddfa, William Edward Taynton, 20 oed, i weld sut olwg fyddai ar wyneb dynol, a daeth Taynton y person cyntaf i gael ei deledu mewn ystod arlliw lawn.
 
Ar 26 Ionawr 1926, ailadroddodd Baird y trosglwyddiad ar gyfer aelodau’r Sefydliad Brenhinol a gohebydd o The Times yn ei labordy yn Llundain. Dangosodd drosglwyddiad lliw cyntaf y byd ar 3 Gorffennaf 1928, gan ddefnyddio disgiau sganio wrth y pennau trosglwyddo a derbyn gyda thair troell o agorfeydd. Roedd gan bob troell yn cynnwys hidlydd o liw cynradd gwahanol; a thair ffynhonnell golau ar y pen derbyn, gyda chymudadur i newid cryfder y golau. <ref>{{Cite web|title=University of Glasgow :: Story :: Biography of John Logie Baird|url=https://universitystory.gla.ac.uk/biography/?id=WH0235&type=P|website=universitystory.gla.ac.uk|access-date=2020-10-18}}</ref>
 
Ym 1927, trosglwyddodd Baird signal teledu pellter hir dros 438 milltir (705 km) dros linell ffôn rhwng Llundain a Glasgow. Ym 1928 anfonodd luniau teledu o Lundain i Efrog Newydd ar radio tonnau byr. Bu hefyd yn arddangos teledu mewn lliw, a datblygodd system recordio fideo a alwodd yn 'phonovision'. <ref>{{Cite web|title=John Logie Baird|url=http://bbc.com/historyofthebbc//research/story-of-bbc-television/john-logie-baird|website=bbc.com|access-date=2020-10-18|language=en}}</ref>
 
Dechreuodd y BBC ddefnyddio system Baird ar gyfer y gwasanaeth teledu cyhoeddus cyntaf ym 1932, cyn newid ym 1937 i fersiwn Marconi-EMI.
 
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, parhaodd Baird i ariannu ei ymchwil ei hun. Roedd ei gyflawniadau yn cynnwys teledu diffiniad uchel a theledu 3D, a system ar gyfer anfon negeseuon yn gyflym iawn fel delweddau teledu.
 
==Teulu==
Ym 1931 priododd Baird â Margaret Albu, pianydd o Dde Affrica yn wreiddiol, bu iddynt dau o blant. <ref>{{Cite web|title=John Logie Baird biography - Science Hall of Fame - National Library of Scotland|url=https://digital.nls.uk/scientists/biographies/john-logie-baird/|website=digital.nls.uk|access-date=2020-10-18}}</ref>
 
==Marwolaeth==
Bu Logie Baird farw yn ei gartref yn Bexhill-on-Sea, Dwyrain Sussex ar ôl dioddef strôc. Cafodd ei gladdu wrth ochr ei rieni ym Mynwent Helensburgh, Argyll. <ref>{{Cite web|title=John Logie Baird in Bexhill-on-Sea|url=https://www.discoverbexhill.com/history/johnlogiebaird.php|website=www.discoverbexhill.com|access-date=2020-10-18}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
 
{{eginyn Albanwyr|Baird, John Logie}}
 
{{DEFAULTSORT:Baird, John Logie}}