James Hughes (Iago Trichrug): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Person|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''James Hughes (lago Trichrug)''' ([[3 Gorffennaf]], [[1779]] – [[2 Tachwedd]], [[1844]]) yn [[Gweinidog yr Efengyl|Weinidog yr Efengyl]] gyda'r [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd]] Cymreig yn [[Llundain]] ac yn [[Bardd|fardd]].<ref name=":1">[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-JAM-1779 Roberts, G. M., (1953). HUGHES, JAMES (‘Iago Trichrug’; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 12 ChwChwefror 2020</ref>
 
== Cefndir ==
Ganwyd Iago Trichrug yn y Neuadd Ddu, [[Ciliau Aeron]]; nepell o [[Trichrug|fryn Trichrug]] y cymerodd ei enw barddol ohono. Roedd yn fab i Jenkin Hughes, (Siencyn y gof) ac Elen merch Rhys y crydd, ei ail wraig. Bu farw ei mam pan oedd Iago yn flwydd oed a chafodd ei fagu am ychydig gan ddwy fodryb weddw. Ychydig wedyn priododd Siencyn y gof am y drydedd waith i ferch oedd ganddi tridri o blant. Symudodd Iago a'r pedwar hanner brodyr a chwiorydd o'r briodas gyntaf i fyw atynt. Oherwydd bod gormod o blant i'w magu danfonwyd plant y wraig newydd allan i weini, rhywbeth a achosodd anghydfod rhwng Iago a'i fam wen. Peth arall oedd yn codi anghydfod yn y teulu oedd hoffter Siencyn y gof o [[Cwrw|gwrw]]. Pan oedd Iago tua 15 mlwydd oed penderfynodd Siencyn a rhai o'i gyfeillion, yn eu diod, i fudo i'r [[Unol Daleithiau America|America]] ac ni chlywodd y mab air o sôn amdano wedyn.<ref name=":0">{{Cite book|title=Biographical dictionary of ministers and preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body: or Presbyterians of Wales; from the start of the denomination to the close of the year 1850 - James Hughes (Iago Trichrug)|url=https://archive.org/details/MN5137ucmf_2/page/n141/mode/2up|publisher=Carnarvon, [Wales] : D. O'Brien Owen, C. M. Book Agency|date=1907|first=Joseph|last=Evans|year=|isbn=|location=|pages=}}</ref>
 
Derbyniodd lago Trichrug rhywfaint o addysg elfennol rhwng 7 a 10 oed mewn ysgol ddyddiol [[Cymraeg]] oedd yn cael ei gadw yn eglwys Trefilan gan Dafydd Gruffydd o Dal y Fan. Wedi hynny fu i nifer o ysgolion lle fu'n ceisio dysgu [[Saesneg]] a [[Lladin]] heb fawr o lwyddiant.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1368098/6#?xywh=-205%2C-18%2C3562%2C2316 Cymru - Cyf. 56, 1919 Iago Trichrug gan Daniel Thomas]</ref>