Mynydd Chomolungma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
+ Crag
Llinell 16:
== Dringo'r mynydd ==
Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr [[Ail Ryfel Byd]], y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]]. Yn ystod un o'r rhain, yn [[1924]], diflannodd [[George Mallory]] ac [[Andrew Irvine (mynyddwr)|Andrew Irvine]] wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn [[1999]] cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd.
 
Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd [[Edmund Hillary]] a [[Tenzing Norgay]] ar [[29 Mai]] [[1953]], newyddion a gyfathrebwyd i'r byd drwy'r newyddiadurwr Cymreig [[Jan Morris]]. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis [[K2]] a [[Nanga Parbat]]. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael [[ocsigen]] ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn [[1978]] dringodd [[Reinhold Messner]] a [[Peter Habeler]] y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.
 
Y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd prif gopa Chomolungma oedd y Cymro o [[Pontrhydfendigaid|Bontrhydfendigaid]], Ceredigion, sef [[Caradog Jones|Caradog 'Crag' Jones]] (g. 1958) a gyflawnodd y gamp ym 1995. Y Gymraes gyntaf i ddringo a chyrraedd copa Everest oedd [[Tori James]] o Sir Benfro, a gyrhaeddodd y copa yn 2007
 
Ar [[25 Mai]] [[2008]] cyrhaeddodd Bahadur Sherchan, 76 oed o Nepal, y copa gan osod record newydd am y person hynaf i ddringo'r mynydd.
 
 
== Cyfeiriadau ==