Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 16:
{{dyfyniad|"Fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd gen i dymheredd gweinidog. Roeddwn i’n rhy anghymdeithasol ac roedd yn gas gen i ymweld â thai i fân siarad; gwersi oedd fy mhregethau yn hytrach na pherorasiynau swnfawr (er gofid i’r saint), ac roedd mynychu pwyllgor a chyfarfod dosbarth a chyfarfod misol a sasiwn yn ing. Mi ddechreuais sgrifennu’n fwy toreithiog nag a wnaethwn i hyd yn oed mewn ysgol a choleg, ond doedd hynny ddim yn lleddfu’r gwewyr."<ref>Cyfweliad ag Islwyn Ffowc Elis ym Mabon 1(6) (1973) wedi ei ddyfynnu yn ''Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis'' (t. 44)</ref>}}
 
Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r [[BBC]].<ref>Llwyd t 57</ref> Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf [[S4C]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3120000/newsid_3128600/3128691.stm 'Talu teyrnged i Islwyn Ffowc'], gwefan y BBC, adalwyd 31 Mai 2008</ref></br>
Dyma ddau gofnod yn nyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) yn awgrymu peth o hanes ei fywyd yn y cyfnod hwn:
 
<blockquote>28 Mehefin 1958 (Porth Swtan): "Ym Mhorth Swtan gydag Islwyn Ffowc ac Eirlys, a gweld Ffwlmar yn nythu ar graig yn ymyl yr ymdrochwyr. Galw heibio i Lyn Llywenan ar y ffordd adref a gweld Gwyddau Canada a chadarnhau mai Telor yr Hesg (Sedge Warbler) a welsom y tro cynt y buom yma (Mai 27) [ac wedi ei ysgrifennu â beiro yn hytrach nag inc] ac nid reed-warbler.</blockquote>
 
<blockquote>12 Mehefin 1958 (Ynys Lawd): "Gydag Islwyn Ffowc yn South Stack. Gweld Ffwlmar wedi nythu mewn twll, ar bentwr o frigau, yn ymyl y grisiau"</br>
 
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr 20g wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, ''Cysgod y Cryman'', llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg.<ref name="Stephens">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)</ref><ref name="BBC">[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/enwogion/llen/pages/islwyn_ffowc_elis.shtml 'Islwyn Ffowc Elis', gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)]</ref> Mae’r ffaith mai ''Cysgod y Cryman'' yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. ''Cysgod y Cryman'' enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn [[1999]] ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]].<ref>Llwyd t. 123</ref> Dewiswyd ''Cysgod y Cryman'' hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn [[2007]] mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.