Bathseba: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality=Cymeriad Beiblaidd|dateformat=dmy}}
 
Roedd '''Bathseba''' yn wraig i Ureias* yr Hethiad ac yn ddiweddarach i [[Dafydd (brenin)|Dafydd Frenin]], yn ôl [[yr Hen Destament]]. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am y naratif Beiblaidd lle gwysiwyd hi gan y Brenin Dafydd, a oedd wedi ei gweld yn ymolchi ac yn ei chwenychu hi. Hi oedd mam [[Solomon]], a olynodd Dafydd yn frenin. Roedd hi hefyd yn un o hynafiaid yr [[Iesu]] <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=Matthew+1%3A6&version=BWM Mathew 1:6]</ref> Ystyr ei henw yw ''merch y llw''. <ref>[[iarchive:geiriadurysgryt01chargoog/page/n164/mode/2up|Charles, Thomas; Geiriadur Ysgrythyrol (argraffiad Utica 1863) tudalen 158 erthygl:Bathseba]] adalwyd 16 Awst 2020</ref>
 
<small>*Nodyn yn [[y Beibl Cymraeg Newydd]] sillafir ei enw fel Ureia</small>
Llinell 8:
Roedd Bathseba yn ferch i Elïam (2 Samuel 11:3 <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+11%3A3&version=BWM 2 Samuel 11:3]</ref>). Yn 1 Cronicl sillafir ei henw hi fel Bathsua a'i thad fel Ammiel <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=1+Cronicl+3%3A5&version=BWM 1 Cronicl 3:5]</ref>. Roedd hi'n wraig i Ureias yr Hethiad, milwr ym myddin Dafydd.
 
Disgrifir rhyngweithiadau cyntaf Dafydd â Bathseba yn 2 Samuel 11, <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+11%3A2-+3&version=BWM 2 Samuel 11;2-3]</ref> ac fe'u hepgorir yn Llyfrau'r Croniclau. Wrth gerdded ar do ei balas, gwelodd Dafydd ddynes hardd iawn yn ymolchi. Gwnaeth ymholiadau i ganfod pwy oedd hi a darganfod mai Bathseba, gwraig Ureias, oedd hi. Cafodd chwantau rhywiol amdani a'i galw i ddod ato i'w balas. Mae Dafydd a Bathseba yn cael [[cyfathrach rywiol]] ac mae hi'n dod yn [[Beichiogrwydd|feichiog]] gyda phlentyn y Brenin. <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+11%3A4-5&version=BWM 2 Samuel 11:4-5]</ref>
 
Mewn ymdrech i guddio ei bechod, gwysiodd Dafydd Ureias o'r fyddin (a oedd ynghanol ymgyrch milwrol ar y pryd) yn y gobaith y byddai Ureias yn cael rhyw gyda'i wraig a chredu mai ef oedd yn gyfrifol am feichiogi Bathseba. Ond roedd Ureias yn anfodlon torri'r traddodiad milwrol o beidio cael rhyw ar adeg ymgyrch milwrol ac o aros gyda'r fyddin a'r creiriau sanctaidd byddai'n bresennol mewn ymgyrch. Yn hytrach na mynd adref i'w wely ei hun, roedd yn well ganddo aros gyda milwyr y palas. Wedi i bob ymdrech i gael Ureias i gysgu gyda'i wraig methu, ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, arweinydd y fyddin, a'i anfon gydag Ureias yn ôl i faes y gad. Roedd y llythyr yn gorchymyn bod Joab yn rhoi Ureias ar flaen y gad lle'r oedd y frwydr yn boethaf ac yna i gilio'n ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw. Lladdwyd Ureias a phriododd Dafydd â Bathseba.<ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+11%3A6-17&version=BWM 2 Samuel 11:6-17]</ref>
 
Roedd gweithred Dafydd yn ddrwg yng ngolwg [[Duw]]. Anfonodd Duw Nathan y proffwyd i geryddu’r brenin. Mae Nathan yn adrodd hanes am ddyn cyfoethog oedd a llawer o [[Dafad|ddefaid]] a [[Buwch|gwartheg]] yn cymryd unig oen ei gymydog tlawd. <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+12%3A+1-6&version=BWM 2 Samuel 12: 1-6]</ref> Mae dicter y brenin yn erbyn gweithred anghyfiawn yn cael ei gyffroi. Yna cymhwysodd y proffwyd yr achos yn uniongyrchol i weithred Dafydd parthed Bathseba. Cyfaddefodd y brenin ei [[Pechod|bechod]] ar unwaith a mynegodd edifeirwch diffuant. Cafodd plentyn cyntaf Bathseba gan Dafydd ei daro â salwch difrifol a bu farw, yn ddienw, ychydig ddyddiau ar ôl ei eni, a derbyniodd y brenin hwn fel ei gosb. Nododd Nathan hefyd y byddai tŷ Dafydd yn cael ei gosbi am lofruddiaeth Ureias.
 
Yn ddiweddarach, esgorodd Bathseba ar fab Dafydd, Solomon. Yn henaint Dafydd, sicrhaodd Bathseba, yn seiliedig ar addewid Dafydd, yr olyniaeth i’r orsedd i Solomon, yn lle meibion hynaf Dafydd gan ei wragedd eraill a oedd wedi goroesi, megis Chileab <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+3%3A+1%E2%80%936&version=BWM 2 Samuel 3: 1–6]</ref>, Adoneia <ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=+1+Brenhinoedd+1%3A+11%E2%80%9331&version=BWM 1 Brenhinoedd 1: 11–31]</ref> ac eraill. Daeth cosb Dafydd i ben flynyddoedd yn ddiweddarach pan arweiniodd un o hoff feibion Dafydd, Absalom, wrthryfel a blymiodd y deyrnas i ryfel cartref. Ar ben hynny, i amlygu ei honiad am y frenhiniaeth, cafodd Absalom gyfathrach rywiol yn gyhoeddus gyda deg o ordderch wragedd ei dad, y gellid ei hystyried fel cosb ar Dafydd am gymryd gwraig dyn arall yn y dirgel.<ref>[https://www.biblegateway.com/passage/?search=2+Samuel+16%3A+20%E2%80%9323&version=BWM 2 Samuel 16: 20–23]</ref>.
 
Goroesodd Bathsiba Dafydd ei gŵr a bu farw yn ystod teyrnasiad Solomon ei fab. <ref>[[iarchive:geiriadurbeiblai01jone/page/684/mode/2up|Mathetes, Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol (1864); tudalen: 684; erthygl:Bathseba]] adalwyd 16 Awst 2020</ref>
 
== Islam ==
Yn ogystal a bod yn ffigwr pwysig yn [[y Beibl Hebraeg]] / Yr Hen Destament [[Cristnogaeth|Cristnogol]] mae Dafydd hefyd yn cael ei ystyried yn [[Proffwydi Islam|broffwyd Islam]]. Gan fod [[Islam]] yn credu bod yr holl broffwydi yn anffaeledig mae'r syniad bod Dafydd wedi pechu trwy ladd Useias er mwyn cael Bathseba yn cael ei wrthod ganddynt. Credant bod Ureias wedi marw yn y frwydr heb ymyrraeth y Brenin. <ref>Tafsir Nemooneh, cyf. 19, t. 257; Oyoun Akhbar Al-Ridha, cyf. 1, t. 154; Amali Saduq, t. 91</ref>
 
== Darluniau ==
Llinell 114:
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
==Gweler hefyd==
[[Rhestr o fenywod y Beibl]]
 
[[Categori:Merched y Beibl]]
Llinell 119 ⟶ 122:
[[Categori:Hanes Israel]]
[[Categori:Cymeriadau'r Hen Destament]]
 
==Gweler hefyd==
[[Rhestr o fenywod y Beibl]]