Sheep Dog (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Plot |
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
||
Llinell 1:
{{teitl italig}}
[[Delwedd:Sheep_Dog_(ffilm_1939).jpg|bawd|Tom, Tufty a Scott]]
Mae '''''Sheep Dog''''' yn ffilm o 1939 wedi ei leoli yng [[Cymru|Nghymru]], mae'n ffilm ddogfen o tua chwarter awr o hyd sy'n rhoi cipolwg ar waith y [[bugail]] Tom Jones, Treorci.
== Cast ==
Llinell 13:
== Cefndir ==
Roedd Tom Jones ([[1901]]-[[1984]]) yn fugail a oedd yn byw yn un o fythynnod Ystradfechan ar yr Hen Fferm, [[Treorci]]. Roedd Jones yn cael ei gyflogi gan yr Ocean Coal Company a oedd yn berchen ar y tir uwchben glofa Parc a Dare. Roedd yn cael ei adnabod ledled y byd fel y ''Wonder Shepherd'' am ei sgiliau rhyfeddol fel hyfforddwr anifeiliaid sydd, ynghyd â’i bryder am ei braidd, yn cael eu cofnodi yn y ffilm.
Er na chafodd Jones unrhyw hyfforddiant ar sut i hyfforddi cŵn, fe ddysgodd ei gŵn i wneud pethau rhyfeddol megis arwain merlyn gan dal y llinyn ffrwyn yn eu cegau ac i fwydo ŵyn gyda photel. Derbyniodd sawl gwobr am ddyngarwch gan y [[RSPCA]] - un ym 1939 am achub 6 oen a gafodd eu trapio ar waelod agen 60 troedfedd ac un arall ym 1982, yn 79 oed, am ddod â mamog a’i oen i ddiogelwch o silff roeddent yn sownd arni hanner ffordd i lawr ochr chwarel serth.
Yn 2011 cyhoeddodd ei ferch, Diana Wilson, [[cofiant]] iddo ''Shepherd of the Hills''.
== Plot ==
|