Peiriannydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn ailgyfeirio at Peirianneg
 
Removed redirect to Peirianneg
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad Golygiad Gweladwy
Llinell 1:
{{pethau}}
#AIL-CYFEIRIO [[Peirianneg]]
Mae '''peiriannydd''', yn un sy'n ymarfer [[peirianneg]].
==Diffyniad==
Gan amlaf bydd peiriannydd yn weithwyr proffesiynol sy'n dyfeisio, dylunio, dadansoddi, adeiladu a phrofi peiriannau, systemau, strwythurau, teclynnau a deunyddiau cymhleth i gyflawni amcanion a gofynion swyddogaethol wrth ystyried y cyfyngiadau a osodir gan ymarferoldeb, rheoleiddio, diogelwch a chost.<ref>{{Cite web|title=Frequently Asked Questions About Engineering|url=https://web.archive.org/web/20060522214617/http://www.nspe.org/media/mr1-faqs.asp|website=web.archive.org|date=2006-05-22|access-date=2021-03-13}}</ref> Mae'r gair Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy'n dyfeisio, adeiladu, trwsio, defnyddio neu'n arolygu offeryn peirianyddol.<ref>{{Cite web|title=Geiriadur Prifysgol Cymru - peiriannydd|url=https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?peiriannydd|website=geiriadur.ac.uk|access-date=2021-03-13}}</ref> Gellir dod yn beiriannydd trwy dderbyn gradd mewn maes peirianyddol o brifysgol, hyfforddiant technolegol, prentisiaeth, hyfforddiant mewn man gwaith neu hunan hyfforddiant.
 
Mewn rhai gwledydd, megis yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]], mae peirianneg yn broffesiwn rheoledig y mae ei ymarfer a'i ymarferwyr wedi'u trwyddedu a'u llywodraethu gan y gyfraith. Yng ngwledydd Prydain does dim rheoleiddio dros y term cyffredinol peiriannydd (nac ''Engineer'', yn [[Saesneg]]) ond i ymarfer fel peiriannydd arbenigol, megis peiriannydd sifil neu beiriannydd siartredig mae'n rhaid derbyn addysg briodol a/neu gael trwydded a/neu fod yn aelod o gymdeithas broffesiynol briodol.
 
==Peirianwyr arbenigol==
* Mae peirianwyr amgylcheddol yn dylunio ac yn gweithredu atebion i wella ac adfer yr amgylchedd.<ref>{{Cite web|title=Environmental Engineer Job Description & Salary|url=https://www.goconstruct.org/construction-careers/what-jobs-are-right-for-me/environmental-engineer/|website=Go Construct|access-date=2021-03-13|first=Go Construct|last=Team}}</ref>
* Mae peirianwyr awyrofod yn dylunio cerbydau gofod neu awyrennau.<ref>{{Cite web|title=Aerospace engineer {{!}} Explore careers {{!}} National Careers Service|url=https://nationalcareers.service.gov.uk/job-profiles/aerospace-engineer|website=nationalcareers.service.gov.uk|access-date=2021-03-13}}</ref>
* Mae peirianwyr biofeddygol yn dylunio ac yn gweithio gydag offer meddygol.<ref>{{Cite web|title=Biomedical Engineering: What is it and what are the career opportunities?|url=https://www.mendeley.com/careers/news/careers-jobs-field/biomedical-engineering-what-it-and-what-are-career-opportunities|website=Mendeley Careers|access-date=2021-03-13}}</ref>
* Mae peirianneg cefnfor a Phensaernïaeth y Llynges yn gweithio ar adeiladu llongau, llongau tanfor a chyrff alltraeth.
* Mae peirianwyr cemegol yn defnyddio cemegolion i wneud cynhyrchion fel cyffuriau a meddyginiaethau neu wrteithiau ar gyfer cnydau.<ref>From Petroleum to Penicillin. The First Hundred Years of Modern Chemical Engineering: 1859–1959. – Burnett, J. N.</ref>
* Mae peirianwyr cyfrifiaduron yn dylunio ac yn adeiladu cyfrifiaduron a'r rhannau y mae cyfrifiaduron wedi'u gwneud ohonynt.
* Mae peirianwyr electronig yn gweithio gydag electroneg, a ddefnyddir i adeiladu rhannau cyfrifiadurol ac offer trydanol.
* Mae peirianwyr gweithgynhyrchu yn dylunio ac yn gwella'r peiriannau a'r llinellau cydosod sy'n gwneud pethau. Maent yn gweithio gyda robotiaid, hydroleg a dyfeisiau a weithredir gan aer i helpu cwmnïau i weithio'n gyflymach ac yn well gyda llai o gamgymeriadau.
* Mae peirianwyr mecanyddol yn dylunio peiriannau neu bethau sy'n symud, fel ceir a threnau. Gallai peiriannydd mecanyddol hefyd helpu i ddylunio gorsafoedd cynhyrchu trydan, purfeydd olew a ffatrïoedd.
* Mae peirianwyr mecatroneg yn adeiladu robotiaid a phethau sydd fel robotiaid, ond nid yn union. Maen nhw'n gwneud pethau sy'n debyg i roboteg.
* Mae peirianwyr meddalwedd yn dylunio ac yn ysgrifennu rhaglenni ar gyfer cyfrifiaduron.
* Mae peirianwyr mwngloddiol yn arbenigwr mewn peirianau sy'n cael eu defnyddio mewn mwyngloddiau
* Mae peirianwyr nanotechnoleg yn astudio pethau bach iawn, fel tannau o atomau a sut maen nhw'n cael eu rhoi at ei gilydd.
* Mae peirianwyr niwclear yn dylunio ac yn adeiladu gorsafoedd niwclear. Maent hefyd yn astudio ymddygiadau nodweddiadol rhai elfennau ymbelydrol neu ansefydlog.
* Mae peirianwyr sain yn gweithredu offer recordio, cymysgu ac atgynhyrchu sain
* Mae peirianwyr sifil yn gweithio ar ffyrdd, pontydd, adeiladau a strwythurau cyhoeddus eraill.
* Mae peirianwyr strwythurol yn delio â dylunio a dadansoddi adeiladau a strwythurau mawr nad ydynt yn adeiladau i wrthsefyll y disgyrchiant a'r llwythi gwynt yn ogystal â thrychinebau naturiol.
* Mae peirianwyr systemau yn edrych ar ba mor gymhleth y mae pethau'n gweithio ac yn ceisio eu gwneud yn gyflymach ac yn ddoethach. Maen nhw'n edrych ar y darlun mawr.
* Mae peirianwyr trydanol yn gweithio gyda thrydan ac yn dylunio offer trydanol, o bethau bach fel radios a chyfrifiaduron i bethau mawr fel y gwifrau sy'n cludo trydan ledled y wlad.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}