Edrych am Jiwlia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd ddyblyg bellach
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Grŵp pop Cymraeg o [[Caerdydd|Gaerdydd]] oedd '''Edrych am Jiwlia''' a ffurfiwyd yn [[1985]].{{angen ffynhonnell}}
 
==Aelodau==
: Siôn Jobbins - llais, geiriau
: Siôn Lewis - [[gitâr]], cerddoriaeth
: Huw Bunford - [[gitâr fâs]]
: Rhisiart Williams - [[drwm|drymiau]]
 
==Hanes==
Bu ymddangosiadau ar raglen ieuenctid [[S4C]] ''Stîd'' a dau fideo ar ''[[Fideo 9]]'' - ''[http://www.youtube.com/watch?v=9vc3tQqJD3E Myfyrio]'' a ''Dau Berson''.
 
Wedi chwalu'r grwp yn [[1989]] aeth [[Siôn Lewis]] a Huw Bunford ymlaen i ffurfio grŵp ''[[Y Gwefrau]]'' gyda Rebecca Evans a Gwenllian Lewis (chwaer Siôn yn canu), Pippa Mahoney ar y gitâr ac Owen Stickler ar y drymiau (a drymiwr grwp ''Y Crumblowers'', grŵp arall o Gaerdydd ).
 
Bu Siôn Lewis yna'n aelod o grŵp ''Profiad Rhys Lloyd'' ddaeth maes o law yn [[Y Profiad]] a chyfrannodd i nifer o grwpiau pop Cymraeg eraill yn cynnwys [[Tynal Tywyll]].