Peter Ellis Eyton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Llinell 56:
{{Diwedd bocs etholiad}}
 
Roedd honiadau yn y wasg bod Eyton wedi prynu ei sedd trwy roi yn hael i achosion megis clybiau gweithwyr, ysgolion Sul, capeli a chymdeithasau [[Dirwest|dirwest.]] Dwywaith yn ystod ei gyfnod yn y Senedd cafodd ei erlyn yn y llysoedd am beidio talu dyledion<ref>POLITICS IN NORTH WALES The Wrexham Guardian 6 Mai 1876 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3854004/ART53] adalwyd 30 Rhagfyr 2014</ref>; yr oedd y wasg Dorïaidd yn honni ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd iddo wario ei holl arian ar lwgrwobrwyo'r etholwyr; ond gan iddo adael dros £4000 yn ei ewyllys<ref>RHYL. THE LATE MEMBERS WILL Wrexham Guardian 9 Tachwedd 1878 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3855754/ART76] adalwyd 30 rhagfyr 2014</ref> dim ond pedair blynedd ar ôl ei ethol mae'n annhebygol bod yr honiadau yn wir.
 
Pan gafodd ei ethol yr oedd yn un o ddau aelod o'r Tŷ Cyffredin a oedd yn defnyddio cadair olwyn, y llall oedd Arthur Kavanagh AS Ceidwadol Swydd Carlow<ref>TIPYN O BOB PETH Cambrian News and Merionethshire Standard 13 Mawrth 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3343792/ART65] adalwyd 30 Rhagfyr 2014</ref>. Roedd agwedd y wasg tuag at ei anabledd yn gymysglyd. Roedd papurau Torïaidd fel y North Wales Express yn ddilornus o'r ffaith bod yr etholaeth yn cael ei chynrychioli gan ''helpless cripple''<ref>DEATH OF Mr PETER ELLIS EYTON, M.P. North Wales Express 21 Mehefin 1878 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3558196/ART23] adalwyd 30 Rhagfyr 2014</ref>, tra fo'r wasg Ryddfrydol yn ei glodfori am fod yn aelod mor weithgar er gwaethaf ei anawsterau<ref>Yr Wythnos Tyst a'r Dydd 28 Mehefin 1878 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3525639/ART2] adalwyd 30 Rhagfyr 2014</ref>.