Peter Ellis Eyton
Roedd Peter Ellis Eyton (1827 -19 Mehefin 1878) yn gyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
Peter Ellis Eyton | |
---|---|
Ganwyd | 1827 Y Fflint |
Bu farw | 19 Mehefin 1878 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Eyton ym 1827 yn y Fflint yn fab i James Eyton, cyfreithiwr a Mary (née Parry) ei wraig. Does dim sicrwydd o'i union ddyddiad geni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Llanynys 8 Hydref 1827.[1]
Cafodd ei addysgu yn y Wyddgrug a'r Liverpool Institute
Roedd yn ddibriod.
Gyrfa
golyguWedi cymhwyso yn y gyfraith yn Lerpwl aeth i weithio yn siambrau cyfreithiol y teulu yn y Fflint. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr teuluol bu hefyd yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfreithiol dinesig megis Clerc Cyngor Tref y Fflint, Clerc Ynadon Sir y Fflint a Chofrestrydd Llys Sirol y Wyddgrug.
Tua 1869 cafodd ei daro gan salwch a achosodd parlys yn ei ddwy goes a'i fraich dde, bu yn gaeth i gadair Caerfaddon (math o gadair olwynion o'r 19g) am weddill ei oes.
Gyrfa Wleidyddol
golyguAr ôl dyrchafiad yr Aelod Rhyddfrydol Syr John Hanmer i Dŷ'r Arglwyddi ym 1872 etholwyd Syr Robert Alfred Cunliffe fel olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad; penderfyniad nad oedd wrth fodd pawb yn y Blaid Ryddfrydol leol. Roedd Syr Robert yn fonheddwr o Sais, doedd o ddim yn byw yn yr etholaeth,[2] ac roedd yn llugoer at achos Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Penderfynodd Peter Ellis Eyton ei herio am y bleidlais Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1874. Cafodd ei ethol gan wthio Syr Robert i'r trydydd safle a chrafu i'r brig gyda dim ond 4 pleidlais o fwyafrif dros yr ymgeisydd Ceidwadol.
Etholiad cyffredinol 1874: Bwrdeistrefi Fflint Etholfraint 3,628 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Peter Ellis Eyton | 1,076 | 36.8 | ||
Ceidwadwyr | C G Rowley-Conway | 1,072 | 40.9 | ||
style="background-color: Nodyn:Rhyddfrydwr Annibynnol/meta/lliw; width: 5px;" | | [[Rhyddfrydwr Annibynnol|Nodyn:Rhyddfrydwr Annibynnol/meta/enwbyr]] | Syr Robert Alfred Cunliffe | 772 | 26.5 | |
Mwyafrif | 4 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 73.3 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Roedd honiadau yn y wasg bod Eyton wedi prynu ei sedd trwy roi yn hael i achosion megis clybiau gweithwyr, ysgolion Sul, capeli a chymdeithasau dirwest. Dwywaith yn ystod ei gyfnod yn y Senedd cafodd ei erlyn yn y llysoedd am beidio talu dyledion[3]; yr oedd y wasg Dorïaidd yn honni ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd iddo wario ei holl arian ar lwgrwobrwyo'r etholwyr; ond gan iddo adael dros £4000 yn ei ewyllys[4] dim ond pedair blynedd ar ôl ei ethol mae'n annhebygol bod yr honiadau yn wir.
Pan gafodd ei ethol yr oedd yn un o ddau aelod o'r Tŷ Cyffredin a oedd yn defnyddio cadair olwyn, y llall oedd Arthur Kavanagh AS Ceidwadol Swydd Carlow[5]. Roedd agwedd y wasg tuag at ei anabledd yn gymysglyd. Roedd papurau Torïaidd fel y North Wales Express yn ddilornus o'r ffaith bod yr etholaeth yn cael ei chynrychioli gan helpless cripple[6], tra fo'r wasg Ryddfrydol yn ei glodfori am fod yn aelod mor weithgar er gwaethaf ei anawsterau[7].
Marwolaeth
golyguBu Peter Ellis Eyton farw yn ysbyty'r Rhyl ym 1878 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Saeran, Llanynys, mae cofeb iddo ar wal yr Eglwys.[8].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestri Plwyf Llanynys Bedyddiadau 1827 rhif 229 - Gwasanaeth Archifau Sir y Fflint
- ↑ NEWYDDION CYMREIG Tyst a'r Dydd 25 Ebrill 1873 [1] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
- ↑ POLITICS IN NORTH WALES The Wrexham Guardian 6 Mai 1876 [2] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
- ↑ RHYL. THE LATE MEMBERS WILL Wrexham Guardian 9 Tachwedd 1878 [3] adalwyd 30 rhagfyr 2014
- ↑ TIPYN O BOB PETH Cambrian News and Merionethshire Standard 13 Mawrth 1874 [4] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
- ↑ DEATH OF Mr PETER ELLIS EYTON, M.P. North Wales Express 21 Mehefin 1878 [5] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
- ↑ Yr Wythnos Tyst a'r Dydd 28 Mehefin 1878 [6] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
- ↑ FUNERAL OF MR. PETER ELLIS EYTON, M.P Llangollen Advertiser 28 Mehefin 1878 [7] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Alfred Cunliffe |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1874 – 1878 |
Olynydd: John Roberts |