Dirwest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 14:
Dechreuodd y mudiad dirwest yn ynysoedd Prydain ym [[Belffast|Melffast]], pan dywalltodd, John Edgar, gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon yr holl wirodydd oedd yn ei dŷ trwy ffenestr gan egluro i'r ''Belfast Telegraph'' ei fod wedi gwneud hynny i annog dirwest. <ref>Peter, Fryer (1965). Mrs. Grundy: Studies in English Prudery. Corgi Books.</ref>. Sefydlwyd y gymdeithas dirwest cyntaf yn ynysoedd Prydain yng [[Glasgow|Nglasgow]] ym 1829 gan John Dunlop a'i fodryb Lilias Graham sef y ''Glasgow and West of Scotland Temperance Society''. <ref>Schrad, Mark Lawrence (2010). The Political Power of Bad Ideas: Networks, Institutions, and the Global Prohibition Wave. Oxford University Press, USA. p. 35. ISBN 978-0-19974-235-6.</ref>
Ym 1830 bu rhwyg yn y mudiad dirwest yn yr Unol Daleithiau, rhwng dirwestwyr cymedrol oedd yn ymgyrch yn erbyn gwirodydd ond yn caniatáu yfed [[cwrw]] a'r dirwestwyr mwy radical oedd am lwyrymwrthod a phob diod alcoholaidd. Sefydlwyd y gymdeithas gyntaf o ddirwestwyr radical yn ynysoedd Prydain yn Preston ym 1833. Ym 1834 cyhoeddodd y Gymdeithas honno cylchgrawn dirwest cyntaf gwledydd Prydain ''The Preston Temperance Advocate''. Ym 1835
Sefydlwyd Cymdeithas Hyrwyddo Dirwest Prydain ym 1835 i uno cymdeithasau dirwest yn y pedair gwlad.
|