Bae Bizkaia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Llygadebrill y dudalen Bae Biskaia i Bae Bizkaia: Sillafiad Basgeg. Does dim synnwyr cymreigio'r z>s ond nid k>c - Bizkaia neu Biscaia ond nid hanner a hanner!
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Delwedd:Bay of Biscay from Terra (2004-05-17).jpg|bawd|Llun lloeren o Fae Biskaia]]
 
[[Bae]] mawr ger arfordir [[Ffrainc]] a [[Sbaen]] yw '''Bae BiskaiaBizkaia''', hefyd '''Bae Vizcaya''' neu '''Bae Biscay''' ([[Sbaeneg]]: ''golfo de Vizcaya'' neu ''golfo de Gascuña'', [[Ffrangeg]]: ''Golfe de Gascogne'', [[Basgeg]]: ''Bizkaiko Golkoa''). Cymer ei enw o dalaith [[Biskaia]] yng [[Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg|Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg]]. Weithiau defnyddir '''Gwlff Gasgwyn''' amdano; mae'r ''[[Atlas Cymraeg Newydd]]'' yn dangos "Gwlff [[Gasgwyn]]" fel y rhan ddeheuol o'r bae.<ref>Jones, Gareth (gol.). ''Yr Atlas Cymraeg Newydd'' (Collins-Longman, 1999), t. 44.</ref> Mae'r bae, sy'n rhan o [[Cefnfor yr Iwerydd|Gefnfor yr Iwerydd]], yn ymestyn o benrhyn Ajo yn [[Cantabria]] ([[Sbaen]]) hyd dde [[Llydaw]], ac yn cynnwys arfordir [[Gwlad y Basg]] ac [[Aquitaine]]. Ei led yw tua 320&nbsp;km (199 milltir).
 
Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig [[Bilbo]], [[Pasajes]] a [[Burdeos]]. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw [[Afon Garonne]]; ymhlith yr afonydd eraill mae [[Afon Nervión]] ac [[Afon Bidasoa]], sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen.