Tansanïa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Tagiau: Dolenni gwahaniaethu
Llinell 10:
}}
 
Gwlad yn nwyrain [[Affrica]] yw '''Gweriniaeth Unedig Tansanïa''' neu '''Tansanïa'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Tansanïa].</ref> Saif yn ardal [[Llynnoedd Mawr Affrica|Llynnoedd Mawr Affrica.]] Mae'n ffinio ag [[Wganda]] a [[Cenia|Chenia]] i'r gogledd, [[Rwanda]], [[Bwrwndi]] a [[Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo]] i'r gorllewin, [[Sambia]], [[Malawi]] a [[Mosambic]] i'r de a [[Cefnfor India|Chefnfor India]] i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, [[Kilimanjaro]], yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa. Ei phoblogaeth yn ôl y Cyfrifiad cenedlaethol diwethaf oedd {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q924|P1082|P585}} a phoblogaeth ei phrifddinas, [[Dodoma]], oedd {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q3866|P1082|P585}}.
 
Yn swyddogol, diffinir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (''presidential constitutional republic'') ers 1996. Ei phrifddinas swyddogol yw Dodoma, ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.<ref>{{cite news | url = http://www.etsav.upc.es/personals/iphs2004/pdf/148_p.pdf | author = Aloysius C. Mosha | title = The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream | accessdate = 13 March 2013 | publisher = University of Botswana }}</ref> Yn [[Dar es Salaam]], sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.<ref name="factbook"/><ref name=official_website>{{cite web | url=http://web.archive.org/web/20131125222553/http://www.tanzania.go.tz/profilef.html | title=The Tanzania National Website: Country Profile | publisher=Tanzania.go.tz | accessdate=1 Maiy 2010}}</ref><ref>{{cite web | url=http://www.tanzaniaports.com/index.php?option=com_content&view=article&id=100&Itemid=270 | title=Dar es Salaam Port | publisher=Tanzaniaports.com | accessdate=19 February 2014 | archive-date=2014-02-22 | archive-url=https://web.archive.org/web/20140222180354/http://www.tanzaniaports.com/index.php?option=com_content&view=article&id=100&Itemid=270 | url-status=dead }}</ref><ref name="factbook">{{cite web | work=The World Factbook | publisher=Central Intelligence Agency | title=Tanzania | date=29 September 2021 | url=https://www.cia.gov/the-world-factbook/countries/tanzania/ }}</ref>
 
Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y [[19g]] a hynny gan yr [[Almaen]]wyr ac yna'r [[Lloegr|Prydeinwyr]] wedi'r [[Ail Ryfel Byd]]. Llywodraethwyd y tir mawr [[Tanganyika]] ar wahân i ynysfor [[Sansibar]], ond wedi iddynt ddod yn annibynnol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.<ref name="factbook">{{cite web | author=Central Intelligence Agency | authorlink=Central Intelligence Agency | work=[[The World Factbook]] | title=Tanzania | url=https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/tz.html | year=2013 | accessdate=12 Gorffennaf 2013}}</ref>
 
Amcangyfrifodd y [[Cenhedloedd Unedig]] fod ei poblogaeth tua 56.31 miliwn, sydd ychydig yn llai na De Affrica, gan ei gwneud yr ail wlad fwyaf poblog sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl i'r de o'r Cyhydedd. Mae'r boblogaeth yn cynnwys tua 120 o [[Grŵp ethnig|grwpiau ethnig]], [[Teulu ieithyddol|ieithyddol]] a chrefyddol. Gwladwriaeth sofran yw Tansanïa, gweriniaeth gyfansoddiadol arlywyddol ac ers 1996 ei phrifddinas swyddogol yw [[Dodoma]] lle mae swyddfa'r arlywydd, y Cynulliad Cenedlaethol, a holl weinidogaethau'r llywodraeth.<ref>{{Cite news|url=https://www.etsav.upc.es/personals/iphs2004/pdf/148_p.pdf|title=The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream|first=Aloysius C.|last=Mosha|access-date=13 March 2013|archive-url=https://web.archive.org/web/20130712145006/http://www.etsav.upc.es/personals/iphs2004/pdf/148_p.pdf|archive-date=12 July 2013|publisher=University of Botswana}}</ref> [[Dar es Salaam]], y brifddinas gynt, sy'n cadw'r mwyafrif o swyddfeydd y llywodraeth a hi yw dinas fwyaf, prif borthladd a phrif ganolfan fasnachol y wlad.<ref name="factbook" /><ref name="official_website" /><ref>{{Cite web|url=https://www.tanzaniaports.com/index.php?option=com_content&view=article&id=100&Itemid=270|title=Dar es Salaam Port|publisher=Tanzaniaports.com|archiveurl=https://web.archive.org/web/20140222180354/http://www.tanzaniaports.com/index.php?option=com_content&view=article&id=100&Itemid=270|archivedate=22 February 2014|access-date=19 February 2014}}</ref> Mae Tansanïa'n wladwriaeth un blaid ''de facto<'' gyda'r blaid sosialaidd ddemocrataidd Chama Cha Mapinduzi mewn grym.
 
Gwlad fynyddig a choediog iawn yn y gogledd-ddwyrain yw Tansanïa. Gorwedda tri o [[Llynnoedd Mawr Affrica|Lynnoedd Mawr Affrica]] yn rhannol o fewn y wlad. I'r gogledd a'r gorllewin mae [[Llyn Victoria]], llyn mwyaf Affrica, a [[Llyn Tanganica|Llyn Tanganyika]], llyn dyfnaf y cyfandir, sy'n adnabyddus am ei rywogaethau unigryw o bysgod. I'r de ceir [[Llyn Malawi]]. Mae'r lan ddwyreiniol yn boeth a llaith, gydag [[ynysfor Sansibar]] ychydig allan ar y môr. Ardal Cadwraeth Bae Menai yw ardal warchodedig forol fwyaf Zanzibar. Lleolir Rhaeadr Kalambo, ar Afon Kalambo ar y ffin gyda [[Sambia]], a hi yw'r [[rhaeadr]] ddi-dor ail uchaf yn Affrica.<ref name="Kalambo Falls">[http://www.britannica.com/EBchecked/topic/310022/Kalambo-Falls "Kalambo Falls"]. </ref>
 
Cristnogaeth yw'r grefydd fwyaf yn Tansanïa, ond mae yna leiafrifoedd sylweddol sy'n dilyn [[Islam]] ac eraill sy'n dilyn y gredo [[Eneidyddiaeth]] hefyd.<ref name="Pew Africa">[http://www.globalreligiousfutures.org/countries/tanzania#/?affiliations_religion_id=0&affiliations_year=2010&region_name=All%20Countries&restrictions_year=2016 Religion in Tanzania], [[Pew Research Center]]</ref> Siaredir dros 100 o wahanol ieithoedd yn Tansanïa, sy'n golygu mai hon yw'r wlad fwyaf amrywiol ei hieithoedd yn Nwyrain Affrica.<ref name="sim">{{Cite book|first=Ulrich|last=Ammon|first2=Norbert|last2=Dittmar|first3=Klaus J.|last3=Mattheier|title=Sociolinguistics: An International Handbook of the Science of Language and Society|url=https://books.google.com/books?id=LMZm0w0k1c4C&pg=PA1967|year=2006|publisher=Walter de Gruyter|isbn=978-3-11-018418-1|page=1967}}</ref> Nid oes gan y wlad iaith swyddogol ''de jure'' <ref>{{Cite web|url=https://www.expogr.com/tanzania_country_information.php|title=Tanzania Country Information – All about Tanzania|website=expogr.com|access-date=26 April 2020}}</ref> [[Swahili|er mai Swahili]] yw'r iaith genedlaethol.<ref name="tzgov">{{Cite web|title=Tanzania Profile|url=https://tanzania.go.tz/home/pages/68|website=Tanzania.go.tz|publisher=Tanzanian Government|access-date=23 July 2017|archiveurl=https://web.archive.org/web/20170802124344/https://tanzania.go.tz/home/pages/68|archivedate=2 August 2017}}</ref> Defnyddir Swahili mewn [[Llywodraeth seneddol|dadl seneddol]], yn y llysoedd is, ac fel cyfrwng addysgu yn yr ysgol gynradd. Defnyddir Saesneg mewn masnach dramor, mewn diplomyddiaeth, mewn llysoedd uwch, ac fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion uwchradd a cholegau;<ref name="sim" /> er bod llywodraeth Tansanïa'n bwriadu rhoi'r gorau i'r Saesneg fel prif iaith yr addysgu, bydd ar gael fel cwrs dewisol.<ref name="afkinsider.com">{{Cite news|url=https://afkinsider.com/88774/tanzania-ditches-english-education-overhaul-plan/|agency=AFK Insider|title=Tanzania Ditches English In Education Overhaul Plan|date=17 February 2015|access-date=23 February 2015}}</ref> Ceir tua 10 y cant o Dansanïaid sy'n siarad Swahili fel iaith gyntaf, ac mae hyd at 90 y cant yn ei siarad fel ail iaith.<ref name="sim" />
 
== Geirdarddiad ==
Cafodd yr enw "Tanzania" ei greu fel cyfansoddyn wedi'i dorri o enwau'r ddwy wladwriaeth a unodd i greu'r wlad: [[Tanganica|Tanganyika]] a [[Gweriniaeth Pobl Zanzibar|Zanzibar]]. Mae'n cynnwys tair llythyren gyntaf enwau'r ddwy wladwriaeth ("Tan" a "Zan") a'r ôl-ddodiad, "ia" gan ffurfio 'Tansanïa'.
 
Mae'r enw "Tanganyika" yn deillio o'r geiriau [[Swahili]] ''tanga'' ("hwylio") a ''nyika'' ("gwastadedd anghyfannedd", "anialwch"), gan greu'r ymadrodd "hwylio yn yr anialwch". Weithiau fe'i deellir fel cyfeiriad at [[Llyn Tanganica|Lyn Tanganyika]].
 
==Hanes==
Mae llawer o [[Hominidae|ffosiliau hominid]] pwysig wedi'u darganfod yn Tansanïa, e.e. ffosiliau hominid o'r[[Plïosen|Pliocene]] (6-miliwn-mlwydd-oed). Roedd y genws [[Australopithecus]] yn byw ledled Affrica 4 i 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl a cheir olion hynaf y genws ''[[Homo]]'' ger [[Ceunant Olduvai|Llyn Olduvai]]. O ran esblygiad yr hil ddynol, felly, mae'r wlad yn anrhaethol bwysig. Yn dilyn datblygiad ''[[Homo erectus]]'' 1.8&nbsp;miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymledodd dynoliaeth ledled yr Hen Fyd, ac yn ddiweddarach i'r Byd Newydd ac [[Awstralia]] o dan y rhywogaeth ''[[Bod dynol|Homo sapiens]]''. Daeth ''H. sapiens'' hefyd i boblogi bron i holl Affrica gan gymryd lle rhywogaethau hynafol ac isrywogaeth eraill dynoliaeth.
 
Yn ddiweddarach yn [[Oes y Cerrig]] a'r [[Oes yr Efydd|Efydd]], roedd ymfudiadau cynhanesyddol i Dansanïa yn cynnwys siaradwyr De Cushiteg a symudodd i'r de o'r fan ble mae Ethiopia heddiw;<ref name="Genetics">{{Cite journal|doi=10.1126/science.1172257|last4=Ehret|first9=J. M.|last9=Bodo|first8=A. A.|last8=Awomoyi|first7=J. B.|last7=Hirbo|first6=A.|last6=Froment|first5=A.|last5=Ranciaro|first4=C.|first3=F. R.|title=The Genetic Structure and History of Africans and African Americans|last3=Friedlaender|first2=F. A.|last2=Reed|first=S. A.|last=Tishkoff|pmc=2947357|pmid=19407144|year=2009|pages=1035–44|issue=5930|volume=324|journal=Science|bibcode=2009Sci...324.1035T}}</ref> Pobl Cushitig Ddwyreiniol a symudodd i mewn i Tansanïa o'r gogledd o [[Llyn Turkana|Lyn Turkana]] tua 2,000 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl;<ref name="Genetics" /> a Nilotes y De, gan gynnwys y [[Pobl Datooga|Datoog]], a darddodd o ranbarth ffiniol De Swdan-Ethiopia heddiw rhwng 2,900 a 2,400 o flynyddoedd yn ôl.<ref name="Genetics" /> Digwyddodd y symudiadau hyn tua'r un amser ag anheddiad y [[Ieithoedd Bantu|Mashariki Bantu]] o Orllewin Affrica yn ardaloedd [[Llyn Victoria]] a [[Llyn Tanganica|Llyn Tanganyika]]. Yn dilyn hynny fe fudon nhw ar draws gweddill Tansanïa rhwng 2,300 a 1,700 o flynyddoedd yn ôl.<ref name="Genetics" /> <ref name="auto">{{Cite book|first=Christopher|last=Ehret|title=An African Classical Age: Eastern and Southern Africa in World History, 1000 B.C. to A.D. 400|url=https://books.google.com/books?id=1i-IBmCeNhUC|date=2001|publisher=University Press of Virginia|isbn=978-0-8139-2057-3}}</ref>
 
Dechreuodd rheolaeth yr [[Almaen]] ar dir mawr Tansanïa ar ddiwedd y [[19g]] pan ffurfiodd yr Almaen yr hyn a elwir yn 'Ddwyrain Affrica'r Almaen' (''German East Africa'' neu ''Deutsch-Ostafrika)''. Cymerodd Llywodraeth Prydain y wlad, ar ôl y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf.]] Llywodraethwyd y tir mawr fel "Tanganyika", gydag [[ynysfor Sansibar]] yn parhau i fod yn awdurdodaeth drefedigaethol ar wahân. Yn dilyn eu h annibyniaeth oddi wrth Lloegr ym 1961 a 1963, unodd y ddwy ran ym 1964 i ffurfio Gweriniaeth Unedig Tansanïa.<ref name="factbook" /> Roedd y gwledydd wedi ymuno â [[Y Gymanwlad|Chymanwlad Lloegr]] ym 1961 ac mae Tansanïa yn dal i fod yn aelod o'r Gymanwlad fel un weriniaeth. <ref name="auto1">{{Cite web|url=https://thecommonwealth.org/our-member-countries/united-republic-tanzania|title=United Republic of Tanzania &#124; The Commonwealth|website=thecommonwealth.org|date=15 August 2013}}</ref>
 
== Daearyddiaeth ==
Gydag arwynebedd o 947,303 km sg (365,756 mi sg)<ref name="BFF">{{Cite web|url=http://www.nbs.go.tz/nbs/takwimu/Statistical_Methods_and_Standards/Basic_Facts_and_Figures_on_Human_Settlements_2012_Tanzania_Mainland.zip|title="Basic Facts and Figures on Human Settlements, 2012", National Bureau of Statistics, Tanzania Ministry of Finance, 2013, page 1. Retrieved 10 November 2014}}</ref> Tansanïa yw'r 13eg wlad fwyaf yn Affrica a'r 31fed fwyaf yn y byd, wedi'i rhestru rhwng yr Aifft a Nigeria.<ref name="Size">{{Cite web|url=https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/rankorder/2147rank.html|title=CIA&nbsp;– The World Factbook&nbsp;– Rank Order&nbsp;– Area|publisher=Cia.gov|access-date=16 October 2014}}</ref> Lleolir y wlad ar arfordir dwyreiniol Affrica ac mae ganddi arfordir ar [[Cefnfor India|Gefnfor India]], sydd oddeutu 1,424 km o hyd.<ref>{{Cite web|url=http://www.fao.org/docrep/009/a0477e/a0477e13.htm|title=Country review: United Republic of Tanzania|date=December 2003|website=Fisheries and Aquaculture Depart, United Nations. (FAO)}}</ref> Oddi fewn i'w ffiniau, ceir sawl ynys alltraeth, gan gynnwys [[Unguja]] ([[Sansibar]]), Pemba, a Mafia.  O fewn y wlad ceir y mannau uchaf ac isaf yn Affrica: [[Kilimanjaro|Mynydd Kilimanjaro]], sy'n 5,895 metr (19,341 tr) uwch lefel y môr, a llawr [[Llyn Tanganica|Llyn Tanganyika]], sy'n 1,471 metr (4,826 tr) islaw lefel y môr, yn y drefn honno.<ref name="frame">Joseph Lake (2013) "Economy" in ''Africa South of the Sahara'', edited by Europa Publications and Iain Frame, Routledge. {{ISBN|1-85743-659-8}}</ref>
[[Delwedd:Wildebeest_Migration_in_Serengeti_National_Park,_Tanzania.jpg|bawd| Ymfudo'r gnwod (neu'r ''Wildebeest'') yn y [[Serengeti]]]]
Fel y nodwyd, mae Tansanïa'n fynyddig ac yn goediog iawn yn y gogledd-ddwyrain, lle saif Kilimanjaro. Llwyfandir mawr yw Canol Tansanïa, gyda gwastadeddau a thir âr. Mae'r lan ddwyreiniol yn boeth a llaith.
 
=== Hinsawdd ===
[[Delwedd:Koppen-Geiger_Map_TZA_present.svg|bawd| Map Tanzania o ddosbarthiad hinsawdd Köppen]]
Mae'r hinsawdd yn amrywio'n fawr o fewn Tansanïa. Yn yr ucheldiroedd, mae'r tymheredd yn amrywio rhwng 10 a 20 gradd Canradd (C) yn ystod tymhorau oer a phoeth, yn y drefn honno. Mae tymheredd gweddill y wlad yn anaml yn gostwng yn is nag 20 gradd C. Mae'r cyfnod poethaf rhwng Tachwedd a Chwefror (25-31 C) tra bo'r cyfnod oeraf yn digwydd rhwng Mai ac Awst (15-20 C). Mae'r hinsawdd yn cŵl mewn rhanbarthau mynyddig.
 
Daw'r glaw mawr ar ddau gyfnod: mae un yn Hydref-Ebrill a'r llall Hydref-Rhagfyr a Mawrth-Mai.<ref name="rain">{{Cite journal|url=https://www.int-res.com/articles/cr2002/20/c020p031.pdf|title=Rainfall variability in Northern Tanzania in the March–May season (long rains) and its links to large-scale climate forcing|journal=Climate Research|volume=20|pages=31–40|last=Zorita, Eduardo|last2=Tilya, Faustine F.|date=12 February 2002|access-date=16 October 2014|doi=10.3354/cr020031|bibcode=2002ClRes..20...31Z}}</ref> Mae'r cyntaf yn y rhannau deheuol, canolog a gorllewinol y wlad, ac mae'r olaf i'w gael yn y gogledd o [[Llyn Victoria|Lyn Victoria]] sy'n ymestyn i'r dwyrain i'r arfordir.<ref name="rain" />
 
Mae [[newid hinsawdd]] yn Tansanïa'n arwain at dymereddau'n codi gyda thebygolrwydd uwch o lawiad dwys (gan arwain at lifogydd) a chyfnodau sych (gan arwain at sychder).<ref>{{Cite web|title=Tanzania|url=https://www.climatelinks.org/countries/tanzania|access-date=27 November 2020|website=Climatelinks|language=en}}</ref><ref>{{Cite web|last=Future Climate for Africa|year=2017|title=Future Climate Projections for Tanzania|url=https://futureclimateafrica.org/wp-content/uploads/2017/08/fcfa_tanzania_climatebrief_web.pdf|website=Future Climate for Africa}}</ref> Mae cynhesu byd eang eisoes yn effeithio ar sectorau [[amaethyddiaeth]], adnoddau dŵr, [[iechyd]] ac [[ynni]] yn Nhansanïa. Disgwylir i godiad yn [[lefel y môr]] a newidiadau yn ansawdd y dŵr effeithio ar bysgodfeydd a dyframaeth.<ref>{{Cite web|title=Tanzania {{!}} UNDP Climate Change Adaptation|url=https://www.adaptation-undp.org/explore/eastern-africa/united-republic-tanzania|access-date=27 November 2020|website=www.adaptation-undp.org|language=en}}</ref>
 
Cynhyrchodd Tansanïa Raglenni Gweithredu Addasu Cenedlaethol (NAPAs) yn 2007 fel y'i gorchmynnwyd gan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Yn 2012, cynhyrchodd Tansanïa Strategaeth Genedlaethol ar [[Newid hinsawdd|Newid Hinsawdd]] mewn ymateb i bryder cynyddol. <ref>{{Cite web|title=Tanzania: National climate change strategy - National Policy, Plans & Statements - PreventionWeb.net|url=https://www.preventionweb.net/english/policies/v.php?id=59982&cid=0|access-date=27 November 2020|website=preventionweb.net}}</ref>
 
=== Bywyd gwyllt a chadwraeth ===
<gallery mode="packed" heights="134">
File:Serengeti National Park 08 - lion - Panthera leo.jpg|Llewod y Serengeti
File: Giraffes Arusha Tanzania.jpg|Giraffod yn Arusha.
File:Gombe Stream NP Mutter und Kind.jpg|Tsimpansi benywaidd gydag un bach yn Gombe Stream
File:Zebra in Mikumi.JPG|Sebras ynm Mharc Cenedlaethol Mikumi
File:Elephants, Serengeti.jpg|Eliffantod y Serengeti
</gallery>
Mae Tansanïa'n cynnwys tua 20% o rywogaethau poblogaeth enfawr gwaed cynnes Affrica, a gaiff eu gwasgaru dros ei 21 parc cenedlaethol, gwarchodfeydd, 1 ardal gadwraeth, a 3 pharc morol. Mae'r 21 parc yma oddeutu 38% o dir y genedl.<ref name="Tanzania travel guide">{{Cite web|title=Tanzania travel guide|url=https://www.zepisaafricansafaris.com/tanzania-travel-guide-everything-you-need-to-know/|access-date=12 January 2021|archivedate=1 December 2020|archiveurl=https://web.archive.org/web/20201201202741/https://www.zepisaafricansafaris.com/tanzania-travel-guide-everything-you-need-to-know/}}</ref><ref>{{Cite book|first=Ridwan|last=Laher|first2=Korir|last2=SingíOei|title=Indigenous People in Africa.: Contestations, Empowerment and Group Rights|url=https://books.google.com/books?id=nZiyAwAAQBAJ&pg=PA57|date=2014|publisher=Africa Institute of South Africa|isbn=978-0-7983-0464-1|page=57}}</ref> Yng ngorllewin Tanzania, [[Parc Cenedlaethol Ffrwd Gombe|Parc Cenedlaethol Gombe Stream]] yw safle astudiaeth barhaus [[Jane Goodall]] sy'n astudio'r [[tsimpansî]], a ddechreuodd ym 1960.<ref>{{Cite web|url=https://www.tanzaniaparks.com/gombe.html|title=Gombe Stream National Park|publisher=Tanzania National Parks|access-date=16 October 2014|archiveurl=https://web.archive.org/web/20141004004545/http://www.tanzaniaparks.com/gombe.html|archivedate=4 October 2014}}</ref> <ref>{{Cite book|first=Laura|last=Riley|first2=William|last2=Riley|title=Nature's Strongholds: The World's Great Wildlife Reserves|url=https://archive.org/details/bub_gb_icMuBQhW4vgC|date=2005|publisher=Princeton University Press|isbn=978-0-691-12219-9}}</ref>
 
Mae Tansanïa'n [[Bioamrywiaeth|fioamrywiol]] iawn ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd anifeiliaid.<ref>{{Cite book|last=S. N. Stuart|first2=Martin|last2=Jenkins|title=Biodiversity in Sub-Saharan Africa and Its Islands: Conservation, Management, and Sustainable Use|url=https://archive.org/details/biodiversityinsu0000stua|date=1990|publisher=IUCN|isbn=978-2-8317-0021-2|page=[https://archive.org/details/biodiversityinsu0000stua/page/204 204]}}</ref> Ar baith y Serengeti ceir gnwod gwyn-barfog (''wildebeest'' o fath ''Connochaetes taurinus mearnsi),'' [[bufilod]] a [[sebra]] <ref>{{Cite web|title=Serengeti wildebeest migration|url=https://www.expertafrica.com/tanzania/info/serengeti-wildebeest-migration|access-date=20 March 2019}}</ref> sy'n mudo'n flynyddol ar raddfa fawr. Mae Tansanïa'n gartref i oddeutu 130 o [[Amffibiad|rywogaethau amffibiaidd]] a dros 275 o rywogaethau o [[ymlusgiaid]], gyda llawer ohonynt yn gwbl frodorol ac wedi'u cynnwys yn [[Rhestr Goch yr IUCN|Rhestrau Coch]] gwledydd [[Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur|yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.]] Tansanïa sydd â'r boblogaeth fwyaf o [[Llew|lewod]] y byd.<ref>{{Cite web|url=https://allafrica.com/stories/201908120146.html|title=Africa: Tanzania Has Largest Number of Lions in Africa, New Report Says|first=Edward Qorro in|last=Arusha|date=12 August 2019|website=allAfrica.com}}</ref>
 
== Gwleidyddiaeth ==
 
=== Llywodraeth ===
Mae Tanzania'n wladwriaeth lle mae un blaid yn dominyddu: gyda phlaid Chama Cha Mapinduzi (CCM) mewn grym. O'i sefydlu, hyd at 1992, hi oedd yr unig blaid a ganiateir yn gyfreithiol yn y wlad. Newidiodd hyn ar 1 Gorffennaf 1992, pan ddiwygiwyd y cyfansoddiad.<ref name="Constitution">{{Cite web|url=https://www.judiciary.go.tz/downloads/constitution.pdf|archiveurl=https://web.archive.org/web/20101217023916/http://www.judiciary.go.tz/downloads/constitution.pdf|archivedate=17 December 2010|title=Constitution of the United Republic of Tanzania|publisher=Judiciary of Tanzania|access-date=19 February 2014}}</ref> Mae wedi dal pŵer ers annibyniaeth ym 1961, a hi yw'r blaid sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Affrica gyfan.<ref name="cfr.org">{{Cite web|title=Magufuli is Transforming Tanzania's Ruling Party From a "Benign Hegemon" Into a Malevolent One|url=https://www.cfr.org/blog/magufuli-transforming-tanzanias-ruling-party-benign-hegemon-malevolent-one|access-date=2021-06-02|website=Council on Foreign Relations|language=en}}</ref>
 
Yn [[Sansibar]], mae gwladwriaeth lled-ymreolaethol ''The Alliance for Change a Transparency-Wazalendois'' (ACT-Wazalendo; neu ''Chama cha Wazalendo'' mewn [[Swahili]]) yn cael ei hystyried yn brif blaid wleidyddol yr wrthblaid. Mae cyfansoddiad [[Sansibar]] yn ei gwneud yn ofynnol i'r blaid sy'n dod yn ail yn y polau ymuno â chlymblaid gyda'r blaid fuddugol. Ymunodd ACT-Wazalendo â llywodraeth glymblaid gyda'r brif blaid (Chama Cha Mapinduzi) yn Rhagfyr 2020 ar ôl i cryn ddadlau ynghylch etholiadau.<ref>{{Cite web|url=https://apnews.com/article/constitutions-tanzania-elections-africa-dar-es-salaam-316350ec78b5299743309ebca78ba889|title=Zanzibar's opposition party to join coalition government|last=Sultan|first=Ali|website=AP News|date=6 December 2020|access-date=29 June 2021}}</ref>
 
=== [[Sansibar]] ===
[[Delwedd:Spice_Islands_(Zanzibar_highlighted)_sv.svg|chwith|bawd| Archipelago Zanzibar lled-ymreolaethol]]
Mae'r awdurdod deddfwriaethol yn [[Sansibar]] dros yr holl faterion nad ydynt yn undebau wedi'u breinio yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr (yn unol â chyfansoddiad Tansanïa) <ref>{{Cite web|url=https://www.judiciary.go.tz/downloads/constitution.pdf|archiveurl=https://web.archive.org/web/20101217023916/http://www.judiciary.go.tz/downloads/constitution.pdf|archivedate=17 December 2010|title=Constitution of the United Republic of Tanzania|publisher=Judiciary of Tanzania|access-date=19 February 2014}}<cite class="citation web cs1" data-ve-ignore="true">[https://web.archive.org/web/20101217023916/http://www.judiciary.go.tz/downloads/constitution.pdf "Constitution of the United Republic of Tanzania"] <span class="cs1-format">(PDF)</span>. </cite></ref> neu'r Cyngor Deddfwriaethol (yn unol â chyfansoddiad [[Sansibar]]).
 
Mae gan yr arlywydd ac aelodau Tŷ'r Cynrychiolwyr dymhorau pum mlynedd a gellir eu hethol am ail dymor.<ref name="Zanzibar Constitution">[https://web.archive.org/web/20110904235537/http://zltb.go.tz/docs/Zanzibar-Constitution-1984.pdf The Constitution of Zanzibar]. zltb.go.tz. 2006.</ref>
 
=== Israniadau gweinyddol ===
[[Delwedd:Tanzania,_administrative_divisions_-_de_-_colored_(+details).svg|bawd| Rhanbarthau Tanzania]]
Ym 1972, diddymwyd llywodraeth leol ar y tir mawr a disodlwyd rheol uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, ailgyflwynwyd llywodraeth leol ar ddechrau'r [[1980au]], pan ailsefydlwyd y cynghorau gwledig a'r awdurdodau gwledig. Cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol ym 1983, a dechreuodd cynghorau gweithredol ym 1984. Yn 1999, deddfwyd Rhaglen Ddiwygio Llywodraeth Leol gan y Cynulliad Cenedlaethol, gan osod "agenda gynhwysfawr ac uchelgeisiol yn cwmpasu pedwar maes: datganoli gwleidyddol, datganoli ariannol, datganoli gweinyddol a newid cysylltiadau canolog-lleol, gyda llywodraeth y tir mawr yn cael pwerauuwch o fewn fframwaith y Cyfansoddiad.<ref name="Kunnat">{{Cite web|url=https://www.tampere.fi/tiedostot/5nCY6QHaV/kuntajarjestelma_tansania_.pdf|archiveurl=https://web.archive.org/web/20130418081535/https://www.tampere.fi/tiedostot/5nCY6QHaV/kuntajarjestelma_tansania_.pdf|archivedate=18 April 2013|title=LOCAL GOVERNMENT SYSTEM IN TANZANIA|date=31 May 2006}}</ref>
 
Yn 2016, rhannwyd Tansanïa yn dri deg un rhanbarth (neu ''mkoa''),<ref>{{Cite news|last=Kilyinga|first=Nasongelya|url=http://allafrica.com/stories/201507100264.html|title=Enter Songwe Region as Six Districts Created|date=10 July 2015|work=[[Daily News (Tanzania)|Daily News]]|access-date=21 February 2017}}</ref><ref>{{Cite news|last=Mwakyusa|first=Alvar|url=http://dailynews.co.tz/index.php/home-news/46650-songwe-is-new-region-with-four-districts|title=Songwe is new region – with four districts|date=4 February 2016|archive-url=https://web.archive.org/web/20160205094519/http://dailynews.co.tz/index.php/home-news/46650-songwe-is-new-region-with-four-districts|archive-date=5 February 2016|work=Daily News|access-date=21 February 2017}}</ref> dau ddeg chwech ar y tir mawr a phump yn [[Sansibar]] (tri ar Unguja, dau ar Pemba). <ref>[https://web.archive.org/web/20130527015837/http://www.tanzania.go.tz/regionsf.html Regions]. tanzania.go.tz</ref> Yn 2012, rhannwyd y tri deg rhanbarth blaenorol yn 169 o ardaloedd (wilaya), a elwir hefyd yn "awdurdodau llywodraeth leol". O'r ardaloedd hynny, roedd 34 yn unedau trefol, a ddosbarthwyd ymhellach fel tri chyngor dinas (Arusha, Mbeya, a Mwanza), un deg naw o gynghorau trefol, a deuddeg cyngor tref. <ref name="2012 census">{{Cite web|url=http://www.nbs.go.tz/nbs/takwimu/census2012/Census_General_Report.zip|title=''Population Distribution by Administrative Areas'', 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013}}</ref>
 
=== Milwrol ===
[[Delwedd:FIB-training-22_(9311333487).jpg|bawd| Lluoedd arbennig FIB Tanzanian yn ystod hyfforddiant]]
Lluoedd arfog Tansanïa yw 'Llu Amddiffyn y Bobl Tansanïa' (neu'r TPDF; Kiswlarus: Jeshi la Wananchi wa Tanzania (JWTZ)), sy'n gweithredu fel llu pobl o dan reolaeth sifil. Mae'n cynnwys pum cangen neu orchymyn: Llu Tir (byddin), Llu Awyr, y Llynges, Gwasanaeth Cenedlaethol a Phencadlys (MMJ).<ref>[https://www.tpdf.mil.tz/]</ref> Gall dinasyddion Tansanïa wirfoddoli ar gyfer gwasanaeth milwrol pan yn 15 oed, a 18 oed ar gyfer gwasanaeth milwrol gorfodol ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd.
 
=== Hawliau Dynol ===
Ledled Tansanïa, mae [[Deddfwriaeth ar gyfunrywioldeb yn ôl gwlad|gweithredoedd rhyw rhwng dynion]] yn anghyfreithlon ac yn cario cosb uchaf o garchar am oes.<ref>{{Cite web|title=State Sponsored Homophobia 2016: A world survey of sexual orientation laws: criminalisation, protection and recognition|url=https://ilga.org/downloads/02_ILGA_State_Sponsored_Homophobia_2016_ENG_WEB_150516.pdf|website=[[International Lesbian, Gay, Bisexual, Trans and Intersex Association]]|date=17 May 2016|archiveurl=https://web.archive.org/web/20171010135034/http://ilga.org/downloads/02_ILGA_State_Sponsored_Homophobia_2016_ENG_WEB_150516.pdf|archivedate=10 October 2017}}</ref> Yn ôl arolwg o Ganolfan Ymchwil Pew yn 2007, roedd 95 y cant o Tansanïaid yn credu na ddylai cymdeithas dderbyn gwrywgydiaeth.<ref>{{Cite web|url=http://pewglobal.org/reports/pdf/258.pdf|title=Pew Global Attitudes Project|pages=35, 84, and 117|publisher=Pew Research Centre|access-date=15 July 2017|archiveurl=https://web.archive.org/web/20100214225525/http://pewglobal.org/reports/pdf/258.pdf|archivedate=14 February 2010}}</ref>
 
Ymosodir ar bobl gydag [[Albinedd]] yn aml neu eu lladd neu eu llurgunio oherwydd ofergoelion sy'n gysylltiedig â'r arfer ''black-magic'' o'r enw muti sy'n dweud bod rhannau o gorff albino briodweddau hudol.<ref>"[https://www.bbc.com/news/world-africa-31849531 Tanzania albino murders: 'More than 200 witchdoctors' arrested]". </ref> Tansanïa sydd â'r nifer uchaf o'r achosion hyn o dorri [[hawliau dynol]] ymhlith 27 o wledydd Affrica lle mae'n hysbys bod muti yn cael ei ymarfer.<ref>Charlotte Baker (22 September 2017) [https://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/witchcraft-albino-trade-body-part-human-rights-un-sub-saharan-african-a7958946.html "The trade in body parts of people with albinism is driven by myths and international inaction"]. </ref>
 
Yn Rhagfyr 2019, adroddodd [[Amnest Rhyngwladol]] fod llywodraeth Tansanïa wedi dirymu hawl cyrff anllywodraethol (NGOs) yn ogystal ag unigolion i ffeilio <u>unrhyw</u> achos yn ei herbyn yn Llys Hawliau Dynol a Phobl Affrica.<ref>{{Cite web|url=https://www.amnesty.org/en/latest/news/2019/12/tanzania-withdrawal-of-individual-rights-to-african-court-will-deepen-repression/|title=Tanzania: Withdrawal of individual rights to African Court will deepen repression|date=2 December 2019|access-date=2 December 2019|publisher=Amnesty International}}</ref>
 
== Economi a seilwaith ==
[[Delwedd:Bank_of_Tanzania_before_dusk.jpg|chwith|bawd| Tyrau Banc Tansanïa]]
O 2021, yn ôl yr [[Cronfa Ariannol Ryngwladol|IMF]], amcangyfrifwyd bod [[GDP|cynnyrch mewnwladol crynswth]] Tansanïa (GDP) yn $71 biliwn (enwol), neu $218.5 biliwn ar sail cydraddoldeb pŵer prynu (PPP). CMC y pen (PPP) oedd $3,574: gellir cymharu hyn gyda GDP y pen Cymru o $31,148 yn 2018.
 
Roedd allforion y wlad yn 2017 yn UD $ 5.3&nbsp;biliwn; a phartneriaid masnachu mwyaf Tansanïa yn yr un flwyddyn oedd India, Fietnam, De Affrica, y Swistir a China.<ref name="UND">{{Cite web|url=https://atlas.media.mit.edu/en/profile/country/tza/|title=OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners|website=atlas.media.mit.edu|language=en|access-date=9 April 2019|archivedate=24 April 2019|archiveurl=https://web.archive.org/web/20190424230123/https://atlas.media.mit.edu/en/profile/country/tza/}}</ref> Cyfanswm ei fewnforion oedd US $8.17&nbsp;biliwn, gydag India, y Swistir, Saudi Arabia, China, a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn bartneriaid mwyaf.<ref name="UND" />
[[Delwedd:The_close_view_of_the_Kariakoo_market_in_Dar_es_Salaam.JPG|bawd| Marchnad Kariakoo yn Dar es Salaam]]
Hwyliodd Tansanïa drwy'r [[Dirwasgiad Mawr 2008-2012|Ddirwasgiad Mawr 2008]], yn gymharol dda, llawer gwell na gwledydd Prydain. Fe wnaeth prisiau uchel aur gryfhau diwydiant mwyngloddio’r wlad.<ref name="frame">Joseph Lake (2013) "Economy" in ''Africa South of the Sahara'', edited by Europa Publications and Iain Frame, Routledge. {{ISBN|1-85743-659-8}}</ref>  Ers i'r dirwasgiad ddod i ben, mae economi Tansanïa wedi ehangu'n gyflym diolch i sectorau twristiaeth, telathrebu a bancio cryf.<ref name="frame" />
 
=== Newyn a thlodi ===
Mae Tansanïa wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at leihau [[newyn]] a [[diffyg maeth]] eithafol. Graddiodd y Mynegai Newyn Byd-eang y sefyllfa fel un "brawychus" gyda sgôr o 42 yn y flwyddyn 2000; ers hynny mae'r GHI wedi dirywio i 29.5.<ref name="globalhungerindex.org">{{Cite web|url=https://www.globalhungerindex.org/tanzania.html|title=Tanzania|website=Global Hunger Index – Official Website of the Peer-Reviewed Publication|language=en|access-date=26 March 2019}}</ref> Mae plant mewn ardaloedd gwledig yn dioddef cyfraddau sylweddol uwch o ddiffyg maeth a newyn cronig, er bod gwahaniaethau trefol-gwledig wedi lleihau o ran pwysau plant.<ref name="Tanzania UNDP">{{Cite web|url=https://www.tz.undp.org/content/tanzania/en/home/about-us.html|title=About us|website=UNDP}}</ref> Mae cynhyrchiant bwyd isel yn y sector gwledig yn deillio'n bennaf o fuddsoddiad seilwaith annigonol; mynediad cyfyngedig i sgiliau ac offer fferm, gwasanaethau credyd; technoleg gyfyngedig yn ogystal â chymorth masnach a marchnata annigonol.<ref name="Tanzania UNDP" />
 
Ceir tua 68% o boblogaeth y wlad yn byw o dan y llinell dlodi o $1.25 y dydd. Mae 32% o'r boblogaeth yn dioddef o [[Diffyg maeth|ddiffyg maeth]].<ref name="globalhungerindex.org" /> Yr heriau amlycaf y mae Tanzania yn eu hwynebu wrth leihau tlodi yw cynaeafu anghynaliadwy ei adnoddau naturiol, [[newid hinsawdd]] a diffyg ffynhonnell ddŵr, yn ôl Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP).<ref name="Tanzania">{{Cite web|url=https://www.heifer.org/about-us/where-we-work/tanzania.html|title=Tanzania|website=Heifer International}}</ref>
 
Dangosodd adroddiad [[Banc y Byd]] yn 2019 fod tlodi wedi gostwng 8% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o 34.4% yn 2007 i 26.4% yn 2018.<ref>{{Cite web|url=https://www.worldbank.org/en/country/tanzania/publication/tanzanias-path-to-poverty-reduction-and-pro-poor-growth|title=Tanzania's Path to Poverty Reduction and Pro-Poor Growth|publisher=World Bank|date=1 December 2019}}</ref>
 
=== Twristiaeth ===
[[Delwedd:Uhuru_Peak_Mt._Kilimanjaro_1.JPG|bawd| [[Kilimanjaro|Copa Uhuru]] dan gap gwyn o eira]]
Cyfrannodd teithio a thwristiaeth 17.5% o [[Cynnyrch mewnwladol crynswth|gynnyrch mewnwladol crynswth]] Tansanïa yn 2016<ref name=":1">{{Cite news|url=https://www.tanzaniainvest.com/tourism/tourist-arrivals-reach-2016|title=Tanzania Tourist Arrivals Increase by 12.9% in 2016 to Reach 1,28 M – TanzaniaInvest|date=26 May 2017|work=TanzaniaInvest|access-date=12 August 2017|language=en-US}}</ref> a chyflogwyd 11.0% o weithlu'r wlad (1,189,300 o swyddi) yn 2013.<ref name="Knoema">[http://knoema.com/WTTC2013/world-travel-and-tourism-council-data-2013 "World Travel and Tourism Council Data, 2013"]. </ref> Cododd y derbyniadau cyffredinol o US $1.74&nbsp;biliwn yn 2004 i UD $4.48&nbsp;biliwn yn 2013,<ref name="Knoema" /> a chododd derbyniadau gan dwristiaid rhyngwladol o US $1.255&nbsp;biliwn yn 2010 i UD $2&nbsp;biliwn yn 2016.<ref name=":1" /><ref>{{Cite web|url=https://dtxtq4w60xqpw.cloudfront.net/sites/all/files/pdf/unwto_highlights14_en_hr_0.pdf|title=''UNWTO Tourism Highlights: 2014 Edition'', United Nations World Tourism Organization, page 11. Retrieved 17 November 2014|archiveurl=https://web.archive.org/web/20150208040125/http://dtxtq4w60xqpw.cloudfront.net/sites/all/files/pdf/unwto_highlights14_en_hr_0.pdf|archivedate=8 February 2015}}</ref> Yn 2016, cyrhaeddodd 1,284,279 o dwristiaid y wlad o'i gymharu â 590,000 yn 2005.<ref>{{Cite web|url=https://atlas.media.mit.edu/en/profile/country/tza/|title=OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners|website=atlas.media.mit.edu|language=en|access-date=9 April 2019|archivedate=24 April 2019|archiveurl=https://web.archive.org/web/20190424230123/https://atlas.media.mit.edu/en/profile/country/tza/}}<cite class="citation web cs1" data-ve-ignore="true">[https://web.archive.org/web/20190424230123/https://atlas.media.mit.edu/en/profile/country/tza/ "OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners"]. ''atlas.media.mit.edu''. </cite></ref> Mae mwyafrif llethol y twristiaid yn ymweld â Sansibar neu "gylched ogleddol" [[Parc Cenedlaethol Serengeti]], [[Ardal Gadwraeth Ngorongoro]], [[Parc Cenedlaethol Tarangire]] , Parc Cenedlaethol Llyn Manyara, a [[Kilimanjaro|Mynydd Kilimanjaro]]. <ref name="frame">Joseph Lake (2013) "Economy" in ''Africa South of the Sahara'', edited by Europa Publications and Iain Frame, Routledge. {{ISBN|1-85743-659-8}}</ref>  Yn 2013, y parc cenedlaethol yr ymwelwyd ag ef fwyaf oedd y Serengeti (452,485 o dwristiaid), ac yna Manyara (187,773) a Tarangire (165,949).<ref name="Abstract">{{Cite web|url=http://www.nbs.go.tz:80/nbs/Stastical%20Abstract/Statistical%20Abstract%20Report%202013.pdf|archiveurl=https://web.archive.org/web/20161123044258/http://www.nbs.go.tz/nbs/Stastical%20Abstract/Statistical%20Abstract%20Report%202013.pdf|archivedate=23 November 2016|title=Statistical Abstract 2013, National Bureau of Statistics|publisher=Tanzania Ministry of Finance|date=July 2014|access-date=23 October 2014}}</ref>
 
== Demograffeg ==
 
 
Mae dosbarthiad y boblogaeth yn Tansanïa'n anwastad, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn byw ar y ffin ogleddol neu'r arfordir dwyreiniol, a cheir poblogaeth denau yn ngweddill y wlad.<ref name="frame">Joseph Lake (2013) "Economy" in ''Africa South of the Sahara'', edited by Europa Publications and Iain Frame, Routledge. {{ISBN|1-85743-659-8}}</ref>  Mae'r dwysedd yn amrywio o 12 person y km sg i 3,133 person y km sg yn [[Dar es Salaam|Rhanbarth Dar es Salaam]].<ref>{{Cite web|url=http://www.nbs.go.tz/nbs/takwimu/census2012/Census_General_Report.zip|title=''Population Distribution by Administrative Areas'', 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013}}<cite class="citation web cs1" data-ve-ignore="true">[http://www.nbs.go.tz/nbs/takwimu/census2012/Census_General_Report.zip "''Population Distribution by Administrative Areas'', 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013"].</cite></ref>
 
Mae tua 70% o'r boblogaeth yn wledig, er bod y ganran hon wedi bod yn gostwng ers o leiaf 1967.<ref>Athuman Mtulya (26 September 2013) [http://www.thecitizen.co.tz/News/Report-reveals-rapid-rural--urban-migration-/-/1840392/2006950/-/m6w9qv/-/index.html "Report reveals rapid rural -urban migration"]. thecitizen.co.tz.</ref> Dar es Salaam (poblogaeth 4,364,541) <ref name="census2012">[https://web.archive.org/web/20131015224549/http://www.nbs.go.tz/sensa/PDF/Census%20General%20Report%20-%2029%20March%202013_Combined_Final%20for%20Printing.pdf 2012 Census General Report]. nbs.go.tz. </ref> yw'r brif ddinas o ran poblogaeth. Ond [[Dodoma]] (poblogaeth 410,956) <ref name="census2012" /> yng nghanol Tansanïa, yw prifddinas y wlad, ac mae'n gartref i'r Cynulliad Cenedlaethol.
[[Delwedd:Hadzabe_Hunters.jpg|bawd| Mae'r [[Hadsa|Hadza]] yn parhau i fyw fel [[helwyr-gasglwyr]] .]]
Mae'r boblogaeth yn cynnwys tua 125 o grwpiau ethnig.<ref name="lev">{{Cite book|first=David|last=Levinson|title=Ethnic Groups Worldwide: A Ready Reference Handbook|url=https://books.google.com/books?id=uwi-rv3VV6cC&pg=PA173|date=1998|publisher=Oryx Press|isbn=978-1-57356-019-1|page=173}}</ref> Mae gan [[Pobl Sukuma|bobloedd Sukuma]], Nyamwezi, Chagga a Haya boblogaeth sy'n fwy na 1 filiwn.<ref name="Otiso">{{Cite book|first=Kefa M.|last=Otiso|title=Culture and Customs of Tanzania|url=https://books.google.com/books?id=90d9pKhSjAIC|date=2013|publisher=ABC-CLIO|isbn=978-0-313-08708-0}}</ref>Mae tua 99% o Dansaniaid o [[Grwpiau ethnig yn Affrica|dras Affricanaidd]] frodorol, gyda niferoedd bach o dras [[Arabaidd]], Ewropeaidd ac Asiaidd.<ref name="lev" /> Mae mwyafrif y Tansaniaid, gan gynnwys y Sukuma a'r Nyamwezi, yn [[Bantu (pobl)|Bantu]].<ref>{{Cite news|url=https://2009-2017.state.gov/outofdate/bgn/tanzania/26492.htm|title=Tanzania (06/02)|work=U.S. Department of State|access-date=17 January 2017}}</ref>
 
=== Addysg ===
[[Delwedd:Nkrumah.JPG|de|bawd| Neuadd Nkrumah ym Mhrifysgol Dar es Salaam]]
Yn 2012, amcangyfrifwyd bod y gyfradd llythrennedd yn Tanzania ar gyfer pobl 15 oed a hŷn yn 67.8%.<ref>{{Cite web|url=https://www.unicef.org/infobycountry/tanzania_statistics.html|title=Tanzania, United Republic of – Statistics|publisher=UNICEF|access-date=15 October 2014}}</ref> Mae addysg yn orfodol nes bod plant yn cyrraedd 15 oed.<ref name="worst">{{Cite web|url=https://www.dol.gov/ilab/reports/child-labor/findings/2013TDA/tanzania.pdf|title=2013 Findings on the Worst Forms of Child Labor|publisher=U.S. Department of Labor|access-date=23 September 2017|archiveurl=https://web.archive.org/web/20170627081436/https://www.dol.gov/ilab/reports/child-labor/findings/2013TDA/tanzania.pdf|archivedate=27 June 2017}}</ref> Yn 2010, roedd 74.1% o blant rhwng 5 a 14 oed yn mynychu'r ysgol. <ref name="worst" /> Cyfradd cwblhau ysgolion cynradd oedd 80.8% yn 2012.<ref name="worst" />
 
==Gweler hefyd==
Llinell 23 ⟶ 130:
 
[[Categori:Tansanïa| ]]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig]]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Gymanwlad]]
[[Categori:Aelod-wladwriaethau'r Undeb Affricanaidd]]
[[Categori:Gwledydd a thiriogaethau Saesneg]]
[[Categori:Gwledydd Affrica]]
[[Categori:Gweriniaethau'r Gymanwlad]]