Allen Raine: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LL ar arth a ballu
cyfeiriadau
Llinell 1:
[[Nofelydd]] poblogaidd o Gymraes oedd '''Anne Adaliza Beynon Puddicombe''' (née '''Evans'''), neu '''Allen Raine''' ([[6 Hydref]], [[1836]] - [[21 Mehefin]], [[1908]]).
 
Ganed yr awdur yn nhref [[Castell Newydd Emlyn]] yn 1836 yn ferch i Benjamin a Letitia Grace Evans. Roedd ei thad, (yn or-wyr i David Davies o Gastellhywel) yn gyfreithiwr a'i mam yn wyres i'r Parch. Daniel Rowland. Buont yn byw yng Nglandŵr, [[Tresaith]] hyd at 1872<ref>[http://www.glandwrtresaith.co.uk/History_of_Glandwr_Tresaith.html Gwefan Saesneg yn ymwneud a'r tŷ]</ref>. Fe'i danfonwyd i fyw i [[Cheltenham]] a [[Wandsworth]] ac yna i [[Llundain|Lundain]] gyda'i chwaer a dychwelodd yn ôl i Gymru yn 1856. Yn 1872 symudodd Anne yn ôl i Lundain i briodi'r banciwr a'r arlunydd<ref>[http://www.artoftheprint.com/artistpages/puddicombe_beynon_ruinsnearrome.htm Enghraifft o waith Beynon.</ref> [[Beynon Puddicombe]]. Yno y cychwynodd ysgrifennu o dan y llysenw Allen Raine. Cyhoeddodd “A Welsh Singer” yn 1896, ar ol iddi rannu’r wobr gyntaf am nofel o'r enw ''Ynysoer'' yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894|Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon]] yn 1894. Buont yn byw ym "Mronmôr", [[Tre-saith]], [[Ceredigion]] hyd at ei marwolaeth.
 
Addaswyd tri o'i llyfrau ar gyfer ffilm: ''Torn Sails'' (1915), ''A Welsh Singer'' (1920) a ''By Berwen Banks'' (1920).
Llinell 33:
[[Categori:Nofelwyr Saesneg]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn Cymry}}