Ymlusgiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Reptile" Tagiau: Gwrthdröwyd Y Cymhorthydd Cyfieithu ContentTranslation2 |
Dadwneud - pwll tywod ddylai fynd fel drafft! Tagiau: Dadwneud |
||
Llinell 1:
{{Blwch tacson
| enw = Ymlusgiaid
| delwedd = Reptiles 2021 collage.jpg
| maint_delwedd = 250px
| neges_delwedd = Casgliad o ymlusgiaid yn ôl cytras: chwe lepidosaurs a chwe bwa.
| regnum = [[Animalia]]
| phylum = [[Chordata]]
| subphylum = [[Vertebrata]]
| classis = '''Reptilia'''
| awdurdod_classis = [[Josephus Nicolaus Laurenti|Laurenti]], 1768
| rhengoedd_israniadau = Isddosbarthiadau
| israniad =
[[Anapsida]]<br />
[[Diapsida]]
| cyfystyron = Sauropsida <small>[[Edwin Stephen Goodrich|Goodrich]], 1916</small>
}}
[[Fertebrat|Anifeiliaid asgwrn-cefn]] gwaed oer gyda chroen cennog yw '''ymlusgiaid''' sy'n ffurfio'r dosbarth '''reptilia'''. Maent i'w cael ar pob [[cyfandir]] heblaw am [[Antarctica]] er fod y mwyafrif ohonyn nhw'n byw mewn ardaloedd [[trofannol]] ac isdrofannol. Mae tymheredd eu cyrff yn newid ac felly maen nhw'n dibynnu ar dymheredd yr [[amgylchedd]]. Mae'r mwyafrif o rywogaethau'n [[cigysydd|gigysol]] ac yn ofiparol (hy maen nhw'n dodwy wyau).
[[Delwedd:Natura 2000 - Madfallod Dwr Cribog.webmhd.webm|bawd|chwith|Fideo o'r [[Madfall ddŵr gribog]] yng Nghymru]]
Mae ymlusgiaid modern yn perthyn i'r [[urdd (bioleg)|urddau]] canlynol:
* [[Crocodilia]] ([[crocodeil]]od ac [[aligator]]iaid): 23 rhywogaeth
* [[Sphenodontida]] ([[twatara]]id o [[Seland Newydd]]): 2 rhywogaeth
* [[Squamata]] ([[madfall]]od, [[neidr|nadroedd]] ac [[amwibon]]iaid): tua 7,600 rhywogaeth
* [[Testudines]] ([[crwban]]od): tua 300 rhywogaeth
==Cymru==
Pump rhywogaeth o ymlusgiaid sy'n frodorol i Gymry: dwy [[neidr]], a thair [[madfall]]. Mae'r [[neidr wair]] (''Natrix natrix'') yn weddol eang ei dosbarthiad a'r [[gwiber|wiber]] (''Vipera berus'') wenwynig yn fwy arfordirol. Ceir llawer o gyfeiriadau [[llên gwerin]] at wiberod, e.e. eu gallu i rowlio'n gylch, fel olwyn, i lawr allt. Credir fod 'Gwiber Penhesgyn' yn fath o ddraig neu sarff anferth reibus chwedlonol (Môn).
Mae'r [[neidr ddefaid]] (''Anguis fragilis'') yn fadfall ddi-goes a'r [[madfall cyffredin]] (''Lacerta lacerta''), yn eang eu dosbarthiad. Ceir llawer o enwau lleol ar y madfall cyffredin, e.e. cena pry gwirion (Llŷn), Galapi wirion (Môn), gena goeg (Clwyd), motrywilen a botrywilen ([[Dyfed]]). Collwyd [[madfall y tywod]] (''L. agilis'') o Gymru am gyfnod byr ar ddiwedd yr [[20g]], ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas.
Cofnodir [[Môr-grwban|crwbanod môr]] ar draethau Cymru yn achlysurol, yn cynnwys y [[crwban môr cefn-lledr]] (''Dermochelys coriacea'') anferth ar Forfa Harlech yn 1988 a arddangosir bellach yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]].
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
{{Rheolaeth awdurdod}}
[[Categori:Ymlusgiaid| ]]
|