Aberdyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
hen ddelwedd
Llinell 23:
==Yr hen fferi==
Ar un adeg bu gwasanaeth cwch fferi yn cysylltu Aberdyfi ag Ynys Tachwedd, ger [[Y Borth|y Borth]], ar lan ddeheuol Afon Dyfi. Mae'n bosibl mai fan hyn y croesodd [[Gerallt Gymro]] a [[Baldwin, Archesgob Caergaint]] ar eu ffordd i'r gogledd ym [[1188]]; "croesasom yr afon mewn cwch," meddai Gerallt yn ei lyfr [[Hanes y Daith Trwy Gymru]].
[[Delwedd:Jth00011.jpg|bawd|chwith|Hen ffotograff o Gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], 1885 o Benhelyg.]]
 
==Diwylliant a thraddodiadau==
Mae'r dref yn enwog am y gân werin adnabyddus "Clychau Aberdyfi", a gysylltir weithiau â chwedl [[Cantre'r Gwaelod]]. Cyhoeddwyd yr alaw gan [[Maria Jane Williams (Llinos)]] ([[1795]] - [[1883]]) yn y gyfrol ''Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg'' ([[1844]]). Yn ddiweddarach ysgrifennodd [[John Ceiriog Hughes|Ceiriog]] eiriau i'r alaw yn ogystal. Mae'r nofel ''The Misfortunes of Elphin'' gan [[Thomas Love Peacock]] yn gymysgiad bwrlesg o draddodiad "Clychau Aberdyfi", chwedl Cantre'r Gwaelod ac elfennau o'r chwedl [[Hanes Taliesin]].