Christopher Bassett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Ganwyd Basset yn [[Aberddawan]], ym mhlwyf [[Pen-marc]], sir Forgannwg, yn ail fab i Christopher Bassett ac Alice ei wraig. Roedd ei deulu yn un weddol barchus a bonheddig, yn hanu o deulu [[Normaniaid|Normanaidd]] a oedd wedi priodi a theuluoedd uchelwyr Cymreig Morgannwg.<ref>{{Cite journal|url=https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1169834/1173523/38#?xywh=-1726%2C-179%2C5697%2C3757|title=Christopher Bassett and the Living of Cardiff|last=Brown|first=Roger L|date=1989|journal=Morgannwg transactions of the Glamorgan Local History Society|volume=33|pages=38-54}}</ref> Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Pen-Marc ar [[27 Chwefror]], [[1752]].<ref>Gwasanaethau Archifau Cymru; Bedyddiadau Sir Forganwg; Eglwys Penmarc 1752 tud 3 -''Christopher 2nd son of Chris Bassett by Alice his wife was born 27 Feb 1752''</ref> Roedd ei rieni yn Fethodistiaid, ac yn aelodau o seiat Aberddawan, wedi dod dan ddylanwad weinidogaeth.<ref name=":0" />
 
Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Tra yn yr ysgol daeth dan ddylanwad yr offeiriad Methodistaidd [[David Jones (Llan-gan)|David Jones, Llan-gan]].<ref>{{Cite journal|url=https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2785689/2791116/17#?xywh=-1583%2C341%2C5289%2C3489|title=Hanes Yr Eglwys Yng Nghymru O Deyrnasiad Elisabeth Hyd Orseddiad Victoria|date=Mehefin 1876|journal=Yr Haul Neu, Drysorfa O Wybodaeth Hanesiol A Gwladwriaethol|volume=20|pages=174|access-date=17 Medi 2022|chapter=234|location=Caerfyrddin|publisher=William Spurrell}}</ref>
 
Wedi ymadael a'r ysgol cafodd cynnig rhan o ystâd ei dad i'w drin ar gyfer ei fywoliaeth. Gwrthododd y cynnig, gan fod ei bryd ar fynd i offeiriadaeth yr Eglwys. I baratoi at ei weinidogaeth aeth i [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Goleg yr Iesu, Rhydychen]]. Graddiodd BA ym 1772 a MA ym 1775.