Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B rhyngwici
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
 
==Datblygiad Chwarel y Penrhyn==
[[Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn|Richard Pennant]], yn ddiweddarach [[Arglwydd Penrhyn]] oedd y tirfeddiannwr cyntaf yng Nghymru i ddechrau gweithio’r chwareli ei hun. Yn 1782 cafwyd gwared ar y partneriaethau annibynnol ac apwyntiwyd James Greenfield fel asiant. Yr un flwyddyn agorodd Pennant chwarel newydd yng Nghaebraichycafn ger Bethesda, a gafodd yr enw Chwarel y Penrhyn yn nes ymlaen. Erbyn 1792, roedd y chwarel yn cyflogi 500 o ddynion ac yn cynhyrchu 15,000 tunnell o lechi y flwyddyn.
 
Yn 1799 dechreuodd Greenfield system y "galeriau", terasau enfawr rhwng 9 medr a 21 medr o ddyfnder. Yn 1798 roedd Arglwydd Penrhyn wedi agor Tramffordd Llandegai, oedd yn defnyddio ceffylau i dynnu’r wagenni, i gario llechi o’r chwarel i’r porthladd, ac yn 1801 agorwyd [[Rheilffordd Chwarel y Penrhyn]], un o’r rheilffyrdd cynharaf. Datblygwyd porthladd yn Abercegin ger Bangor dan yr enw [[Porth Penrhyn]].