Gŵyl Calan Gaeaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: diq:Halloween
manion
Llinell 14:
 
=== Traddodiadau gwreiddiol Cymru ===
Yn ardaloedd gwledig Cymru, yr oedd pobl yn codi [[coelcerth]] ar eu caeau ac yn defnyddio [[rwdan]] neu [[meipen|feipen]] er mwyn creu Jac o' Lantern. Yr oedd pobl yn dweud fod yyr [[Hwch Ddu Gwta]], (hwch ddu heb ei chynffon) a dynes heb ei phen yn crwydro'r caeau, digonyn ddigon o reswm i'r plant ddod yn ôl i'r tai yn gynnar. Yr oedd rhai yn dweud fod [[eiddew]] yn dda i weld gwrachod.
 
Y mae rhai pobl yn llenwi powlen â dŵr hyd nes fod hi'n hanner llawn ac yn rhoi afalau ynddi. Bydd yr afalau yn arnofio ar y dŵr a bydd yn rhaid gafael arnyntynddynt gan ddefnyddio'r [[dant|dannedd]].
 
Yn yr [[Oesoedd Canol]] yr oedd yna arferiadauarferion o roi bwyd i'r meirw, trwy gynnal gwledd fawr a rhoi torth neu gacen i'r tlodion. [[Hel bwyd cennad y meirw]] oedd yr hen enw ar hyn ac roedd trigolion [[Cynwyd]], [[Corwen]], [[Llansanffraid]] a [[Glyndyfrdwy]] yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon tan yn ddiweddar. Cerddai llawer iawn o wragedd tlawd o gwmpas y tai ayn chasglucasglu teisennau. Gwyddom i hyn ddigwydd hyd at 1876 yn yr ardaloedd hyn.<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>
 
Dyma ddisgrifiad gan Charles Ashton yn 1890:
Llinell 24:
''Yr oedd Nos Galan Gaeaf yn noson bwysig hefyd. Ac nid oedd ein teidiau'n esgeulus o gadw'r hen ddefod o gynnau tanau ar y noson hon, coelcerthi [[eithin]] a [[rhedyn]]. Dywedir wrthym fod yr arferiad hwn cyn hyned ag amser y [[Derwyddon]], ac mai diben y tanau oedd boddhau'r duwiau. Dylid diffodd y tân ar yr aelwyd y noson honno, hefyd, a'i ail-gynnau gyda [[pentewyn|phentewyn]] a ddygent adref o'r goelcerth gysegredig. Mae llawer ohonom yn cofio'r [[hwch ddu gwta]] a fyddai yn ymlid y werin anwybodus adref oddi wrth y goelcerth. Y [[diafol]] ei hun, mewn rhith hwch ddu â chynffon fer ydoedd yr ymlidiwr. Nid oes ond tri ugain mlynedd er pan yr oedd pobol yn credu fod gan yr hwch ddu nodwyddau blaenllym i drywanu yr hwn a fyddai yr olaf yn myned dros y [[camfa|gamfa]].''<ref>Traethawd gan Charles Ashton: Bywyd Gweledig yng Nghymru ddechrau'r ganrif o'r blaen; 1890.</ref>
 
Yr hwch ddu gwta, mae'n debyg, oedd y tu ôl i'r hen ddywediad; "Nos g'langaeaGlan Gaea, bwgan ar bob camfa!"
 
== Cyfeiriadau ==