Slefren fôr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
angen infobox
J
Llinell 1:
Mae'r '''slefren fôr''' (neu ar lafar gwlad: '''cont fôr''') yn perthyn i'r [[ffylwm]] [[Cnidariad]] ac yn greaduriaid [[Infertebrat|di-asgwrn cefn]]. Maent yn nofio drwy symud eu siap tebyg i gloch neu ymbarel o jeli. Mae ganddynt ''tentacles'' y defnyddiant i frathu neu bigo eu hysglyfaeth.
[[File:Olindias formosa1.jpg|thumb|chwith|''Olindias formosa'', yn [[Osaka]], Aquarium[[Japan]].]]
 
Maent i'w canfod ym mhob cefnfor - o wyneb y dŵr i'r dyfnder eithaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n gallu byw mewn [[dŵr croyw]], fodd bynnag. Maent wedi nofio'r moroedd ers o leiaf 500 miliwn o flynyddoedd,<ref>Public Library of Science. ''"Fossil Record Reveals Elusive Jellyfish More Than 500 Million Years Old."'' ScienceDaily, 2 Tach. 2007. Web. 16 Ebrill 2011.[http://www.sciencedaily.com/releases/2007/10/071030211210.htm]</ref> ac o bosib 700 miliwn o flynyddoedd neu ragor, sy'n eu gwneud yn un o'r mathau hynaf o anifail aml-organ ar wyneb y Ddaear.