Gwrtheyrn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1+) (robot yn ychwanegu: ja:ヴォーティガン
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Pen00275 Gwrtheyr LlGC.jpg|bawd|Dyluniad o Wrtheyrn allan o Frut y Brenhinedd (Llsgr. Peniarth 23C); [[Llygrgell Genedlaethol Cymru|Ll. G. C.]] ]]
[[Delwedd:Вортигерн (Гуртеирн, Гуортигерн).jpg|bawd|250px|Gwrtheyrn]]
 
 
Brenin [[Brythoniaid|Brythonig]] yng nghanol y [[5ed ganrif]] oedd '''Gwrtheyrn''' ([[Lladin]]: ''Vortigernus'') yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y [[Sacsoniaid]] i [[Ynys Prydain]]. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio.
 
Ceir sôn yng ngwaith [[Gildas]], ''[[De Excidio Britanniae]]'' ([[6ed ganrif]]) i gynghorwyr y Brythoniaid, "ynghyda'u teyrn balch" (''cum superbo tyranno'') wahodd y Sacsoniaid i'r ynys, ond nid yw Gildas yn rhoi enw'r teyrn hwnnw. Mae [[Beda]] yn ei ''Hanes Eglwysig'' yn yr [[8fed ganrif]] yn rhoi enw'r brenin yn y stori fel ''Uurtigern''.
[[Delwedd:Вортигерн (Гуртеирн, Гуортигерн).jpg|bawd|chwith|250px|Gwrtheyrn]]
 
Yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir fersiwn lawnach o'r stori. Dywed fod y brenin Guorthigirnus wedi croesawu arweinwyr y Saesnon, [[Hengist]] a [[Hors]], ac wedi rhoi ynys Tanet yn rhodd iddynt. Dywedir mai er mwyn cael merch Hengist, [[Alys Rhonwen]] (neu Ronwen), yn wraig y rhoes diroedd iddynt. Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddianu [[Ynys Prydain]]. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (''Nemet eour Saxes!'' "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu [[Brad y Cyllyll Hirion|cyllyll hirion]] a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef [[Eidol]], Iarll [[Caerloyw]]. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i [[Cymru|Gymru]].