John Blackwell (Alun): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a gwiro ffeithiau
newidiadau man using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:John Blackwell.jpg|200px|bawd|John Blackwell (Alun) yn [[1831]]]]
[[Bardd]] ac [[offeiriad]] o [[Cymry|Gymro]] oedd '''John Blackwell''' (tua diwedd [[1797]] - [[19 Mai]], [[1840]]<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein">[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLAC-JOH-1797.html?query=John+Blackwell+(Alun)&field=name Y Bywgraffiadur Ar-Lein]; adalwyd 04/01/2013.</ref>. Ei [[enw barddol]] oedd '''Alun'''.
 
Cafodd ei eni ym [[Ponterwyl|Mhonterwyl]], ger [[Yr Wyddgrug]] yn [[Sir y Fflint]]. Roedd ei fam o Langwm a mwynwr oedd ei dad{{angen ffynhonnell}}. Crydd oedd o wrth ei alwedigaeth. Daeth i sylw yn dilyn ei awdl ''Maes Garmon'' yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1823 ac enillodd ei awdl ''Genedigaeth Iorwerth II'' yn Eisteddfod Rhuthun y flwyddyn ddilynol. Ym 1824 aeth i [[Aberriw|Feriw]] lle dysgodd Ladin a Groeg gan y ficer, y Parch Thomas Richards. Ym 1825 cafodd ysgoloriaeth i fynd i [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Goleg yr Iesu, Rhydychen]] trwy garedigrwydd bnoheddwyr a chlerigwyr a edmygai ei waith. Graddiodd ym [[1828]] a chafodd ei ordeinio ym 1829 i guradiaeth [[Treffynnon]] lle y bu am bedair blynedd. Yn 1833 rhoddodd [[Arglwydd Broughham]] iddo fywoliaeth [[Manordeifi]] yng ngogledd [[Sir Benfro]] fel rheithior y plwyf, a bu'n byw yno am weddill ei oes. Yn 1839 priododd Matilda Dear o [[Pistyll|Bistyll]], ger [[Treffynnon]]<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BLAC-JOH-1797.html?query name=John+Blackwell+(Alun)&field=name "Y Bywgraffiadur Ar-Lein]; adalwyd 04"/01/2013.</ref>. Bu farw yn 19 Mai 1841 yn 42 oed a chladdwyd ef ym mynwent Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.<ref> Gwaith Alun. Golygydd Owen M Edwards. Cyfres y Fil 1909. </Refref>
 
Canai Alun ar y [[mesurau caeth]], ond gwelir ei ddawn ar ei gorau yn ei [[canu rhydd|cerddi rhydd]] [[telyneg]]ol. Enillodd yn yr [[eisteddfod]]au ond ni chyhoeddwyd ei waith tan ar ôl iddo farw, yn y gyfrol ''Ceinion Alun'' ([[1851]]), a olygwyd gan [[Gutyn Padarn]]. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus y mae 'Abaty Tyndyrn', 'Cân Doli' a 'Gwraig y Pysgotwr'. Y gerdd a wnaeth ei enw fodd bynnag oedd ei [[marwnad|farwnad]] i'r Esgob Heber, a wobrwyd yn Eisteddfod [[Dinbych]] yn [[1828]].