Diserth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5319397 (translate me)
refs i'r enw
Llinell 1:
[[Delwedd:Lower Foel Road in Dyserth - geograph.org.uk - 29577.jpg|250px|bawd|Lôn yn Niserth.]]
[[Delwedd:Dyserth Church - geograph.org.uk - 29581.jpg|250px|bawd|Eglwys Diserth.]]
Pentref canolig ei faint a chymuned yn [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]], yw '''Diserth'''<ref>Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud. 295</ref><ref>Dictionary of Place-names in Wales; Gwasg Gomer; Cyhoeddwyd 2007; tud 125</ref> (ffurf Saesneg: ''Dyserth''). Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001). Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o [[Prestatyn|Brestatyn]] ac i'r dwyrain o dref [[Rhuddlan]].
 
Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan [[cwmwd]] [[Prestatyn (cwmwd)|Prestatyn]], yng nghantref [[Tegeingl]]. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy [[Botryddan]], canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]], claddwyd y bardd ac ysgolhaig [[Dafydd Ddu o Hiraddug]] (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.
 
Ger y pentref ceir olion hen [[chwarel]]i a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol [[Moel Hiraddug]] yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o [[Llwybr y Gogledd|Lwybr y Gogledd]] yn rhedeg heibio i'r pentref.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Trefi Sir Ddinbych}}