Y Corân: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 137 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q428 (translate me)
treiglad
Llinell 1:
{{Islam}}
'''Y Coran''' neu'r '''Qur’ān''' ([[Arabeg]]: القرآن '''''al-qur'ān''''', yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. ''Qur'an'' neu ''Al-Qur'an'', ''Koran'' yn Saesneg, ''Coran'' yn Gymraeg a Ffrangeg) yw testun sanctaidd canolog [[Islam]]. Cred [[Mwslim]]iaid fod y Coran yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r dynolrywddynolryw, ac ystyriant fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf [[Duw]] ([[Allah]]). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Coran ei ddatguddio i'r Proffwyd [[Muhammad]] gan yr [[angel]] [[Gabriel]] yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.
 
Mae Mwslimiaid yn gweld y Coran fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i [[Adda]], a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r ''[[Suhuf-i-Ibrahim]]'' (Sgroliau Abraham), y ''Tawrat'' ([[Torah]] neu ran gyntaf yr [[Hen Destament]]), y ''Zabur'' ([[Llyfr y Salmau]]), ac yn olaf yr ''Injil'' (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r [[Testament Newydd]]). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Coran ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol.