Ysgol Dr. Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB
Llinell 1:
Ysgol i ferched yn [[Dolgellau|Nolgellau]], [[Gwynedd]] oedd '''Ysgol Dr. Williams''', a ddaeth yn ysgol breswyl yn ddiweddarach. Sefydlwyd ym 1875, a caewyd ym 1975.
 
==Hanes==
Enwyd yr ysgol ar ôl Dr. Daniel Williams, a fu farw ym 1716 gan adael eiddo gwerth tua £50,000 yng ngofal 23 ymddiriedolwr. Defnyddwyd yr arian yn ôl ei gyfarwyddiadau i sefydlu prentisiaethau, llyfrgell ddiwinyddol yn [[Llundain]] a 7 ysgol gynradd, un yn [[Chelmsford]], [[Essex]] ac eraill ar draws gogledd [[Cymru]].<ref name="Hanes">{{dyf gwe| url=http://www.dwsoga.org.uk/pages/Historypagewelsh.htm| teitl=Agor Ysgol Dr. Williams i Ferched, Dolgellau| cyhoeddwr=Cymdeithas y Cyn-Ddisgyblion Ysgol Dr Williams, Dolgellau}}</ref>
 
Llinell 7:
 
Yn hytrach, gwnaethpwyd gais cryf dros Ddolgellau gan Samuel Holland, perchennog [[Chwarel Oakeley]],<ref name="BBClleol" /> a casglwyd cyfraniadau o £1,400. Prynodd Holland ddwy acer o dir, chwarter milltir y tu allan i Ddolgellau, oddiwrth Mr. Vaughan, [[Nannau]] fel safle i’r ysgol. Derbynniodd y cynllun sêl bendith y Comisiwn Elusennau ar 19 Ionawr 1875, a cyfarfodd Corff Llywodraethol yr ysgol am y tro cyntaf ar 15 Medi 1875 gyda Samuel Holland A.S yn gadeirydd.<ref name="Hanes" />
 
==Addysg==
Roedd y cwricwlwm yn darparu addysg ar gyfer merched rhwng saith ac unarbymtheg oed. Roedd y pynciau a ddysgwyd yn cynnwys [[Llenyddiaeth Saesneg]], [[arlunio]], [[canu]], [[gwnïo]], a [[gwyddor tŷ]] a oedd yn cynnwys [[coginio]], rheolau [[iechyd]], [[gwyddoniaeth]] a iaith Ewropeaidd. Cysidrodd rhai fod y cwricwlwm yn 'rhy uchelgeisiol'.<ref name="Hanes" />