Boddi Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Tryweryn Heddiw: cywiro camsillafiad
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Tryweryn memorial chapel w.JPG|250px|bawd|de|Capel Coffa Tryweryn]]
[[Delwedd:Cysgod Tryweryn (llyfr).jpg|bawd|Clawr y llyfr [[Cysgod Tryweryn]] gan [[Owain Williams]].]]
[[Delwedd:Llyn Celyn - geograph.org.uk - 250851.jpg|250px|bawd|de|Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965.]]
Pentref ger y Bala, [[Sir Feirionydd]] yng [[Cymru|Nghymru]] a gafodd ei foddi ym [[1965]] i greu [[cronfa ddŵr]] ([[Llyn Celyn]]) ar gyfer trigolion [[Lerpwl]], [[Lloegr]] oedd '''Capel Celyn'''. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig [[Gymraeg]], gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a [[Ffermydd a foddwyd yng nghapel Celyn|deuddeg o ffermydd]] a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.
 
== Hanes y boddi ==
[[Delwedd:Llyn Celyn - geograph.org.uk - 250851.jpg|250px|bawd|de|Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965.]]
{{Tryweryn}}
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu [[argae]] ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflenwi dŵr i drigolion [[Lerpwl]]. Roedd y prosiect werth £20 miliwn. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un [[aelod seneddol]] o Gymru o'i blaid.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.</ref>