Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
pennawd
Llinell 1:
Safle natur sy'n dod dan lefel isaf [[cadwraeth]] yng ngwledydd [[Prydain]] yw '''Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig''' (SDGA neu SoDdGA). Mae'n dynodi safle sydd gyda bywyd gwyllt, planhigion, daeareg neu morffoleg arbennig. Yn 2006 roedd 1,019 o SDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).
 
==Cymru==
Yng [[Cymru|Nghymru]] mae'r cyfrifoldeb am sefydlu a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn gorwedd gyda [[Cyfoeth Naturiol Cymru]]. Y corff cyfatebol yn [[Lloegr]] yw [[Natural England]], yn yr [[Alban]]: y [[Scottish Natural Heritage]], ac yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]]: yr [[Environment and Heritage Service]]. Mae'r safle lleiaf (0.004ha) ym Mhenfro, ble y ceisir gwarchod y ''[[Rhinolophus hipposideros]]'' mewn hen fwthyn 150 mlwydd oed a'r safle mwyaf (24,321 ha) ar [[Mynydd y Berwyn|Fynydd y Berwyn]]: rhostir enfawr lle ceir adar yr ucheldir prin.