Llangeitho: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwiroa chyf. Gwybodlenni, replaced: (UK Parliament constituency)| → (etholaeth seneddol)|, (Assembly constituency)| → (etholaeth Cynulliad)| using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith [[Gymraeg]], ond cafwyd [[mewnfudo|mewnlifiad]] mawr yn y [[1970au]] a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.
 
==Hanes a hynafiaethau==
Mae Llangeitho yn enwog yn [[hanes Cymru]] fel man geni y diwygiwr [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] [[Daniel Rowland]], a aned yno yn [[1713]]. Gwasanethodd fel curad yn [[Nantcwnlle]] a Llangeitho. Cododd [[capel|gapel]] yn Llangeitho yn [[1760]] a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn [[1764]] a'r ail yn [[1814]].<ref>T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], [[Llyfrau'r Dryw]], 1952).</ref>
 
Mae eglwys Llangeitho, sy'n sefyll ar ochr ogleddol y pentref, yn hynafol ond cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol ar ddiwedd y 19eg ganrif a difethwyd yr ysgrîn ddwbl ganoloesol hardd a'r hen risiau pren yn arwain i'r [[croglofft|groglofft]]. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl Sant [[Ceitho]]. Ceir Ffynnon Geitho gerllaw; dywedir fod ei dŵr yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.<ref>T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], [[Llyfrau'r Dryw]], 1952).</ref>
 
Yng nghyffiniau'r pentref ceir plasdy'r Cwrt Mawr, lle casglodd yr hynafiaethydd [[J. H. Davies]] y casgliad gwerthfawr o lawysgrifau Cymraeg a adwaenir fel [[Llawysgrifau Cwrtmawr]], sy'n rhan o gasgliad llawysgrifau [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] fel rhodd gan J. H. Davies.<ref>T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], [[Llyfrau'r Dryw]], 1952).</ref>
 
==Cyfrifiad 2011==
Llinell 54 ⟶ 55:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Cyfeiriadau==
*T. I. Ellis, ''Crwydro Ceredigion'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], [[Llyfrau'r Dryw]], 1952)
 
{{Trefi Ceredigion}}
 
[[Categori:PentrefiLlangeitho| Ceredigion]]