Statud Rhuddlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
delwedd
Llinell 1:
{{Ffurfiant y DU}}
 
Gweithredwyd '''Statud Rhuddlan''' neu '''Statud Cymru''' ar 3 Mawrth 1284 ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] — a sefydlwyd yn ffurfiol gan [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] a [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac a ddalwyd am gyfnod byr ar ôl ei farwolaeth gan ei frawd [[Dafydd ap Gruffudd]], Tywysog Cymru — yn ystod 1282-83 gan y brenin [[Edward I o Loegr]]. Cafodd ei gyhoeddi gan Edward I yn ei gastell yn [[Rhuddlan]], gogledd [[Cymru]]. Dan y Statud, meddianwyd tiriogaeth y Dywysogaeth Gymreig annibynnol gan Goron Lloegr. Yn ogystal a theyrnas Gwynedd ei hun, cnewyllyn y Dywysogaeth, hawlwyd rhannau o [[Teyrnas Powys|Bowys]] - ac eithrio [[Powys Wenwynwyn]] (a ildwyd yn 1283 gan [[Owen de la Pole]], fe ymddengys) - a thiriogaethau eraill yn y canolbarth a'r de-orllewin, sef y rhannau o [[Teyrnas Deheubarth|Ddeheubarth]] a fu dan reolaeth Llywelyn. Doedd y tiriogaethau hyn ddim yn cynnwys y rhannau o Gymru a reolid gan [[Y Mers|Arglwyddi'r Mers]]; cyfran sylweddol o'r wlad yn ymestyn o [[Sir Benfro]] trwy dde Cymru i ardal y [[Gororau Cymru|Gororau]].<ref>R. R. Davies, ''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987), pennod 14.</ref>
 
Llinell 6 ⟶ 5:
 
== Creu siroedd newydd ==
[[File:Cofnod o Statud Rhuddlan Stryd Fawr 05.JPG|bawd|chwith|Cofnod o Statud Rhuddlan ar fur adeilad yn Rhuddlan 2014.]]
Rhannodd Statud Rhuddlan y Dywysogaeth yn [[Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974|siroedd]] newydd, a grewyd ar y patrwm sirol Seisnig. Rhanwyd [[Gwynedd Uwch Conwy]], calon Teyrnas Gwynedd, yn dair sir - [[Ynys Môn|Sir Fôn]], [[Sir Feirionnydd]], a [[Sir Gaernarfon]] - a chreuwyd [[Sir y Fflint]], yn [[Y Berfeddwlad]] ([[Gwynedd Is Conwy]]). Roedd y siroedd newydd hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar yr hen [[cantrefi a chymydau Cymru|gantrefi a chymydau Cymreig]]; cyfunwyd cantrefi [[Arfon]], [[Arllechwedd]], [[Eifionydd]], a [[Llŷn]], a chwmwd y [[Creuddyn (Rhos)|Creuddyn]], i ffurfio Sir Gaernarfon, er enghraifft. Sefydlwyd swydd ''Justiciar'' Gogledd Cymru i reoli siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd gyda thrysorlys taleithiol yn nhref [[Caernarfon]]. Yn yr un modd, sefydlwyd swydd ''justiciar'' Gorllewin Cymru yn [[Sir Aberteifi]] a [[Sir Gaerfyrddin]].<ref>''Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063-1415'', pennod 14.</ref> Ni sefydlwyd y siroedd eraill cyn 1536 a pharhaodd arglwyddiaethau'r Mers yn annibynnol ar Goron Lloegr tan hynny.