Gwneuthurwyr cyfrifon, Biwrocratiaid, Defnyddwyr wedi'u cadarnhau, Gweinyddwyr rhyngwyneb, Wedi eithrio rhag bod eu cyfeiriadau IP yn cael eu blocio, Gweinyddwyr
93,263
golygiad
(d:Q7835) |
(cyfoesi) |
||
{{cyfoes}}
: ''Am y bwlch yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler [[Bwlch y Gorddinan]].''
[[Delwedd:Map of Ukraine political simple Oblast Krim.png|bawd|de|300px|Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn Wcráin]]
Mae '''Penrhyn y Crimea''' ([[Wcraineg]]: Кримський півострів; [[Rwsieg]]: Крымский полуостров a [[Tatareg Crimea]]: Qırım yarımadası) yn ddarn mawr o dir ar arfordir gogleddol [[y Môr Du]] ac sydd bron wedi'i amgylchynnu gan ddŵr. Saif i'r de o [[Wcráin]] ac i'r gorllewin o [[Kuban]], [[Rwsia]].
Gorynys yng ngogledd y [[Môr Du]] yw'r '''Crimea''' neu '''Krym''' ([[Rwsieg]] ''Крым'' / ''Krym'', [[Wcraineg]] ''Крим'' / ''Krym'', [[Tatareg Crimea]] ''Qırım''). Fe'i gweinyddir fel gweriniaeth hunanlywodraethol o fel [[Wcráin]]. Enw swyddogol y weriniaeth honno yw '''Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea''' (Wcraineg ''Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea ''Qırım Muhtar Cumhuriyeti'').▼
Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn [[Rwsiaid]], gyda niferoedd sylweddol o [[Wcrainiaid]] (24%) a [[Tatariaid Crimea]] (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.
==Perchnogaeth==
▲
Ym Mawrth 2014, yn dilyn cynydd yn niferoedd milwyr Rwsia i'r penrhyn, pleidleisiodd trigolion y Crimea dros sefydlu "[[Gweriniaeth Crimea]]. Ar y pryd, dim ond Rwsia oedd yn ei chydnabod.
==Hanes==
Coloneiddwyd y Crimea gan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn y [[6ed ganrif CC]]. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y [[Gothiaid]], yr [[Hyniaid]] ac eraill. Yn [[1239]] cafodd ei wneud yn ''khaniad'' gan [[Tatariaid]] yr [[Haid Euraidd]]. Cipiwyd y ''khaniad'' gan y [[Twrci|Tyrciaid]] yn [[1475]] a chafodd y Crimea ei feddiannu gan [[Rwsia]] yn [[1783]]. Rhwng [[1853]] a [[1856]] ymladdwyd [[Rhyfel y Crimea]] yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd [[DU|Prydain]], [[Ffrainc]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr [[Almaen]] [[Natsïaeth|Natsïaidd]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]] ([[1941]]-[[1943]]). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i [[Uzbekistan]] yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr [[Undeb Sofietaidd]] mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.
<gallery>
File:Sevastopl View.jpg|Arfordir dinas [[Sevastopol]]
File:Eclizee-burun-mountain.jpg|Eclizee-Burun
File:Crimea.Yayla.Cliff-1.jpg|[[Yalta]]
File:Summer sunset over the Sevastopol bay.jpg|Y machlud dros [[Sevastopol]]
File:Crimea.Yayla.Cliff-2.jpg|[[Mynyddoedd Crimea]] ger dinas [[Alushta]]
Crimean Mountains.PNG|Mynyddoedd Crimea
</gallery>
[[Categori:Crimea| ]]
[[Categori:Daearyddiaeth Rwsia]]
[[Categori:Daearyddiaeth Wcráin]]
[[Categori:Hanes Wcráin]]
|