Charles Darwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
1958
Rotlink (sgwrs | cyfraniadau)
B fixing dead links
Llinell 11:
[[Naturiaethwr]] [[Saeson|Seisnig]] a chwyldrôdd yr astudiaeth o hanes natur a'r cysyniad traddodiadol am natur a hanes y ddynolryw oedd '''Charles Robert Darwin''', [[Fellow of the Royal Society|F.R.S.]] (12 Chwefror 1809 – 19 Ebrill 1882). Gosododd y seiliau i ddamcaniaeth [[esblygiad]] ac hefyd cynigiodd yr egwyddor o [[tarddiad cyffredin|darddiad cyffredin]] fel canlyniad i [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth i'r byd ym 1858 yn y Linnaean Society ar y cyd ag [[Alfred Russel Wallace]] yn 1958 ac i'r cyhoedd wedyn yn ei lyfr ''[[The Origin of Species]]'', a gyhoeddwyd yn [[1859]]; gwaith enwocaf Charles Darwin.
 
Yn Awst 1831, astudiodd [[Creigiau Eglwyseg|greigiau Eglwyseg]] ger [[Llangollen]] ac yna ymweliad â [[Pen y Gogarth|Phen y Gogarth]] yn [[Llandudno]], cyn mynd ymlaen i [[Cwm Idwal|Gwm Idwal]] yn [[Eryri]] lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.<ref>[http://web.archive.org/web/20081016214428/http://thedispersalofdarwin.blogspot.com/2008/10/charles-darwin-visit-to-cwm-idwal-on.html Llun y gofeb ar gyfer ei ymweliad]</ref><ref>[http://charles-darwin.classic-literature.co.uk/the-autobiography-of-charles-darwin/ebook-page-11.asp Ei hunangofiant (Saesneg), lle ceir ei stori'n llawn]</ref>
 
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd [[HMS Beagle|HMS ''Beagle'']] ac roedd ei arsylliadau ar [[Ynysoedd y Galapagos]] yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.