Diffyg ar yr haul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Solar eclipse 1999 4 NR.jpg|bawd|Diffyg llawn ar yr haul yn 1999.]]
[[Delwedd:Solar Eclipse May 20,2012.jpg|bawd|Diffyg ar yr haul, gydag eglurhad.]]
Ffenomen a achosir gan y [[lleuad]] yn gorwedd rhwng y [[Ddaear]] a'r [[haul]] gan beri i'r haul gael ei orchuddio dros dro, o safbwynt gwyliwr ar y Ddaear, yw '''diffyg ar yr haul'''. Gall diffygion ar yr haul fod yn ddiffygion llwyr neu rannol ; yr olaf sydd fwyaf cyffredin. Mae diffyg ( neu 'eclips') yn digwydd pan fo unrhyw wrthrych [[astronomeg]]ol yn symud i gysgod gwrthrych arall, neu pan fo gwrthrych yn pasio rhyngddo a'r gwyliwr. Ar y Ddaear, y ddau ddiffyg a welir ydy diffyg ar yr haul a [[diffyg ar y lloer]].
 
Mae diffyg llawn yn peri i'r [[awyr]] dywyllu'n sylweddol iawn, ffenomen a achosai ofn ym meddwl pobl yn y gorffennol, cyn cael esboniad gwyddonol am y digwyddiad. Credai rhai pobloedd hynafol fod yr haul yn cael ei lyncu gan fod goruwchnaturiol, er enghraifft, a byddai pobl yn gweddio neu'n aberthu i gael yr haul yn ôl. Roedd y gallu i ragweld diffygion ar yr haul, trwy gadw cofnodion seryddol, yn rhoi grym arbennig i offeiriad ac yn eu plith, fe ymddengys, [[derwydd]]on y [[Celtiaid]].
[[File:2007-03-03 - Lunar Eclipse small-43img.gif|bawd|chwith|Diffyg ar y lloer Mawrth 2003, wedi'i gyflymu.]]
 
==Yng Nghymru==
Llinell 21 ⟶ 19:
 
:''Mewn rhai mannau yn y dywysogaeth, dywedir fod y brain yn myned i'w coedwigoedd, ar adar yn myned i'w nythod, a'r ystlym yn gwneuthur ei hymddangosiad ; yr ieir yn chwilio am eu clwydau. Yr oedd natur wedi pruddhau, fel wedi ei tharaw â dychryn a syndod ; yr awyr yn yn oer ac yn dywyllddu, fel pe buasai ryw ymarllwysiad ofnadwy ar ddyfod i'r ddaear o rywbeth anarferol ; ac wedi i'r llen gael ei symud dipyn oddiar wyneb brenin y dydd, dyma natur fel yn codi o farw i fyw, yr ystlumod yn dianc i'w tyllau, a'r adar mân yn pyncio pereiddfawl i'w Crëwr, a phob peth yn ymddangos mor siriol a dymunol a chynt.-"Wele dyma ranau ei ffyrdd ef, ond mor fychan ydyw y peth ydym ni yn ei glywed am dano ef!"''<ref>Y Seren Ogleddol, Mehefin 1836, tud. 183.</ref>
[[File:2007-03-03 - Lunar Eclipse small-43img.gif|bawd|chwith|Diffyg ar y lloer Mawrth 2003, wedi'i gyflymu.]]
 
===Diffyg modrwyol 1847===
Llinell 28 ⟶ 27:
 
==Y llawysgrifau==
Ceir sawl cyfeiriad at ddiffyg ar yr haul yng Nghymru yn yr hen lawysgrifau gan gynnwys pedwar ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] ac un cofnod o ddiffyg ar y lloer.<ref>Fersiwn Thomas Jones, Brut y Tywysogyon, / Llyfr Coch Hergest, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1955.</ref>
 
* 807 - ''Ac yna y bu varw Arthen, vrenhin Keredigyawn. Ac y bu diffyc ar yr heul.'' Mae'n ymddangos mai cyfeirio at ddiffyg 11 Chwefror 807 mae'r nodyn yma.
Llinell 34 ⟶ 33:
* 830-831 - ''Deg mlyned ar hugein ac wythgant oed oet Crist pan vu diffyc ar y lleuat yr wythuet dyd o vis Racuyr. Ac y bu varw Satur[n]biu, esgob Mynyw.'' Mae'n bosib fod y nodyn hwn yn cyfeirio at ddiffyg ar y lloer ar 4 Tachwedd 830 (Calendr Iwliaidd)
* 1137-1138 - ''Ac yna y bu diffic ar yr heul y deudecuetyd o Galan Ebrill.'' Ymddengys mai cyfeirio at ddiffyg ar yr haul llawn yr 20 Mawrth 1140 mae'r cyfeiriad hwn, ond os felly, yna mae'r dyddiad a nodir gan Thomas Jones ddwy flynedd yn rhy gynnar.
* 1184-1185 - ''Yn y ulwyddyn honno dyw Calan Mei y sumudawd yr heul y lliw; ac y dywat rei uot anei diffyc.'' Ar [[Calan Mai|Galan Mai]] 1184, roedd y diffyg yn llawn yn [[Ucheldir yr Alban]], Ynysoedd Gorllewin yr Alban a'r [[Ynysoedd Erch]].
* 1191-1191 - ''Ac y bu diffyc ar yr heul.''
 
A cheir un cofnod yn fersiwn Llyfr Coch hergest o'r Brut, sy'n cyfeirio o bosib at ddiffyg ar y lloer,:
* 691 - ''A'r lleuat a ymchoelawd yn waedawl liw.'' Cyfeirir yma at ddiffyg 17 Mai 691
 
== Gweler hefyd ==