Ikurrina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dim treiglad
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
 
==Hanes==
Dyluniwyd y faner yn 1894 fel baner Plaid Genedlaethol y Basgiaid, y EAJ-PNV, ar gyfer talaith Biskaia, gyda'r disgwyl y byddai baner arall ar gyfer yr holl diriogaeth Basgaidd eraill. Gan mai yn y dalaith honno roedd y PNV gryfaf dyna'r faner a ddefnyddiwyd helaethaf ganddi a gydag amser daeth i'w hystyried fel baner ar gyfer yr holl daleithiau. Fe'i chwifiwyd gyntaf yn yr "Euzkeldun Batzokija", y gymdeithas wleidyddol a rhagflaenodd yr EAJ-PNV. Mabwysiadwyd y faner gan y blaid newydd yn 1895 ac yn 1933 fe'i cynnigiwyd fel baner ar gyfer yr holl wlad.
Tybir mai baner ar gyfer talaith Biskaia o'r PNV oedd hi'n wreiddiol, gyda'r disgwyl y byddai baner arall ar gyfer yr holl diriogaeth Basgaidd eraill.
 
Oherwydd poblogrwydd y faner fe gynigiodd y gwleidydd sosialaidd, Aznar (peidied â'i gymysgu â'r cyn-Brif Weinidigo Sbaenaidd o'r blaid gendwadol, Partido Popular) fel baner Rhanbarth Hunanlywodraethol Basg yn 1936. Defnyddiwyd y faner hefyd fel jac forwrol gan Lynges *** oedd yn rhan o lynges y Weriniaeth a oedd yn weithredol ym Mae Bisgai yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
 
Yn 1938, wedi i'r Cadfridog Franco guro Llywodraeth Weriniaethol Sbaen, fe waharddwyd y faner, er iddi barhau i gael ei defnyddio gan y Basgwyr o fewn Iperralde (tair sir gogleddol y Basgiaid o fewn gwladwriaeth Sbaen). Dros y degawdau a ddilynodd daeth yn symbol o wrthwynebiad y Basgwyr i lywodraeth asgell dde, genedlaetholaidd Sbaenaidd Franco ac fe'i defnyddiwyd gan fudiad terfysgol ETA fel baner o wrthryfel.
 
Gyda marwolaeth yr unben Franco 8 Mehefin 1976 daeth llacio ar y gwrthwynebiad i'r faner. Mewn digwyddiad eiconig ar 5 Rhagfyr 1976fe gyd-gariodd capteniaid timau pêl-droed Basgeg, Real Sociadad ac Athletic Biblao, yr ikurrina ar gae stadiwm Atotxa
 
Cyfreithlonwyd yr Ikurrina ar 19 Ionawr 1977. Yn Erthygl 5 o Stadud Hunanlywodraeth Gwlad y Basg yn 1979 fe fabwysiadwyd yr ikurrina yn faner y Gymuned Hunanlywodraethol Basg. Fe'i defnyddir fel baner answyddogol gan Basgwyr yn y bedair dalaith arall hefyd.
 
==Gwleidyddiaeth yr Ikurrina==
Caiff yr ikurrina ei chwifio ar draws swyddfeydd a phencadlysoedd yn Euskadi fel rheol gyda baner Sbaen a baner yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Gorffennnaf 2007 dyfarnodd Goruchaflys Sbaen yn erbyn apêl Llywodraeth Euskadi ga orfodi'r Llywodraeth i chwifio baner Sbaen o adeilad Pencadlys yr [http://www.ertzaintza.net/ Ertzaintza] (Heddlu'r Gymuned Fasgeg) ac adeiladau swyddogol eraill.
 
 
Bu anghydfod ynghylch chwifio a ddefnyddio'r faner fel un swyddogol yn y dalaith Fasgeg, Nafar. Er fod Nafar yn un o saith talaith hanesyddol y Basgiaid ac i'r phrifddinas, Iruna (Pamplona yn Sbaeneg) fod yn brifddinas y brenhinoedd Basgeg, fe geir yno hunaniaeth sy'n mynegu ei hun fel Nafaroaid yn hytrach na Basgwyr. Mae'r gymuned yma yn uniaethu'n gryfach gyda'r wladwriaeth Sbaeneg a'r iaith a'r diwylliant Sbaeneg tra'n eiddigeddus o'r rhyddid a geir ganddynt fel gymuned Foral o fewn Sbaen. Yn yr un modd ag y mae gan tair sir Euskadi (y Gymuned Hunanlywodraethol Basg) yr hawl i godi a chadw ei threthi, gwelir yr un hawl gan gymuned Nafar.
 
Un nodwedd o'r hunaniaeth Nafaroeg yma gan rai ryw amharodrwydd i gydnabod yr ikurrina fel baner sy'n cynnwys Nafar.
 
==Gallery==