Park Güell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
maint y ddelwedd
 
Ehangu
Llinell 8:
| image = Reptil_Parc_Guell_Barcelona.jpg
| image_alt =
| image_size = 290px
| caption =
| map_type =
Llinell 91:
}}
 
Parc cyhoeddus o erddi ac elfennau pensaerniol ydy '''Park Güell''' (Catalan: ''Parc Güell'') a leolwyd ar Allt Carmelo yn [[Barcelona]], [[Catalwnia]]. Mae Allt neu Fryn Carmelo yn un o deulu o fryniau'r [[Sierra de Collserola]] sef y [[Parque del Carmelo]] (Catalan: ''Parc del Carmel)'' ac mae'n ar lethr bychan, yn wynebu'r gogledd ym maestref Gràcia, Barcelona. Gyda'r angen i drefoli'r ddinas, gofynodd [[Eusebi Güell]] i [[Antoni Gaudí]], i gynllunio'r parc ar ffurf ardaloedd preswyl Lloegr, a dyna pam y defnyddiwyd y sillafiad Saesneg "Park" yn hytrach na'r Catalan ("Parc"). Fe'i crewyd rhwng 1900 a 1914 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1926. Yn 1984 fe'i dynodwyd yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] gan [[UNESCO]] dan y teitl "Gweithiau Antoni Gaudí". Yr arddull a ddefnyddiodd yma (ac yn nhrwch gweddil gweithiau Gaudí) yw ''[[:w:ca:Modernisme català|Modernisme Catalwnia]]''.
 
Mae Park Güell yn perthyn i 'gyfnod 'naturiol' Gaudí, sef degawd cyntaf yr [[20fed ganrif]]. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd y pensaer ei arddull unigryw drwy sylwi ac astudio pethau organig byd natur a'u gweithredu o fewn strwythurau peirianeg ac adeiladwaith. Daeth Gaudí a chwa o awyr iach, rhyddid a meddwl newydd, fel artist wrth ei waith, i fyd llawn llinellau syth a diflas yr adeiladydd; daeth hiwmor lle bu confensiwn a rhyddid byw lle bu caethiwed y traddodiad clasurol. Gyda Pharc Güell, am y tro cyntaf, trodd ei syniadau a'i freuddwydion yn strwythurau ymarferol, real ac organig. Yr arddull newydd hwn a aeddfedodd yn ddiweddarach i greu un o bencampweithiau mwya'r byd: y [[Sagrada Família]].
[[Delwedd:BCN-ParcGuell-4898.jpg|bawd|320px|chwith|Canol Park Güell]]
{{clirio}}
Llinell 104:
Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach trodd Joan Martorell at Gaudí a'i gomisiynu i gynllunio pafiliwn a stablau ar gyfer Finca Güell (1883-1887) yn Les Corts, yng ngorllewin Barcelona. Roedd hyn yn cadarnhau eu cyfeillgarwch. Roedd Martorell yn un o besaeri enwocaf y genedl y pryd hwn ac roedd Gaudí yn ei ystyried fel ei feistr, a chafodd ddylanwad aruthrol ar ei was.
 
Yn 1886 gofynodd Eusebi Güell i Gaudí godi tŷ newydd iddo, y Palau Güell yn heol ''Nou de la Rambla'' yn yr hen dref. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach - yn 1895 adeiladodd Gaudí adeilad mewn gwinllan yn Swydd Garraf ar y cyd gyda Francesc Berenguer. Yn 1898 cynlluniodd eglwys ar gyfer Colònia Güell, yn gartref i'w weithwyr ar ei ffatri [[tecstil]]iau anferthol ar ymylon Barcelona. Yn 1900 rhoddwyd aseiniad mwy na'r un arall iddo - sef cynllunio Park Güell. Tyfodd y cyfeillgarwch rhwng Güella a Gaudí gan fyw mewn dau dŷ yn y parc, yn agos at ei gilydd.
 
Yn ystod eu hoes, gwesant y parc yn troi i fod yn un o brif atyniadau ymwelwyr yng Nghatalwnia; ac ymfalchient fod sgwâr y parc yn cael ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau cenedlaetholgar, Catalwnaidd gan gynnwys dawnsio 'sardna' traddodiadol, a digwyddiadau dinesig, swyddogol yn ogystal a gwyliau cymdeithasol.
 
==''Modernisme'' yng Nghatalwnia==
Mae ''Modernisme'' o fewn diwylliant y Catalan yn gyfystyr ag un enw: Gaudí. Mew gwledydd eraill defnyddir y termau / mudiadau canlynol: Sezession, Liberty, Jugendstil neu art nouveau. Ond yn wahanol i'r mudiadau eraill yma, roedd ''Modernisme'' yn cyfeirio nid yn unig at adfywiad o estheteg ond hefyd yn adfywiad o iaith a diwylliant Catalwnia ei hun, gan yn wir foderneiddio'r diwylliant hwnnw. Daeth Barcelona'n ganolbwynt i'r adfywiad hwnnw.
 
Roedd yr Arddangosfa Fyd-eang (''Universal Exhibition'') a gafwyd yn 1888 yn llwyfan gwerth chweil a ddangosod i wledydd Ewrop mor loyw a safonol oedd yr adfywiad celf a diwylliant yng Nghatalwnia. Yma, roedd ymddangosodd ysbryd cosmopolitan art neauveau mewn gweithiau modern, newydd a oedd wedi'i seilio'n solad yn yr hen draddodiadau.
 
==Lleoliad a chyfyngiadau cynllunio==
Mae'r lleoliad ar lethr, sef ochr bryncyn a elwir yn ''Muntanya Pelada'' ney "Fynydd Moel" - lleoliad arbennig o brydferth gyda golygfa o'r môr a 'Gwastatir Barcelona'. Y bwriad oedd creu 60 o dai safonol ar leiniau trionglog, gyda rhwydwaith cynhleth o lwybrau'n plethu rhyngddynt. Ond roedd yr amodau cynllunio dinesig yn rhwystr rhag gwireddu'r freuddwyd:
*roedd yn rhaid i arwynebedd pob tŷ fod yn llai na 1/6ed y llain
*roedd yn rhaid i'w huchder ganiatau i bob cymydog gael golygfa o'r môr a golau llawn (heb dai'n cuddio golau unrhyw gymydog
Roedd Gaudí'n parchu'r planhigion a dyfai yno a defnyddiodd blanhigion Canoldirol nad ynt angen llawer o ddŵr; creodd system i gronni dŵr ar gyfer y tai a sicrhaodd ei gynlluniau nad oedd y tiroedd yn cael eu herydu gan y glawogydd trymion, a digonedd o ddŵr i'r tai.
 
Oherwydd y cyfyngiadau, rhoddwyd y gorau i'r syniad o godi tai yn 1914, gyda dim ond dau dŷ wedi'u codi. Trodd yn barc, a a daeth yn atynfa i ymwelwyr.
 
==Newid y cynlluniau==
Torrwyd y dywarchen gyntaf yn Hydref 1900, pan rannwyd y tir i wahanol lefeloedd ac erbyn Ionawr 1903 (fel y nodwyd yn y ''Anuari de l’Associació d’Arquitectes'' (Llyfr Blynyddol Cymdeithas y Pensaeri) safai dau bafilwn: un ar bob mynedfa, yn ogystal â'r prif set o risiau ynghŷd â chysgod i gerbydau ceffyl a [[dyfrbont]]. Erbyn 1907 roedd nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal yno, ac roedd yr 'ystafell golofnog' wedi'i cwbwlhau.
 
Prynwyd y llain cyntaf o dir i godi tŷ yn 1902 gan gyfaill Güell, sef y cyfreithiwr Martí Trias i Domènech, a gomisiynodd y pensaer Juli Batllevell i godi fila. Ar yr un pryd, cododd y peiriannydd Josep Pardo i Casanovas, dŷ enghreifftiol wedi'i gynllunio gan gymorthydd Gaudí, sef Francesc Berenguer, er mwyn hybu gwerthiant y tai eraill. Symudodd Gaudí ei hun i fyw yno yn 1906, gyda'i dad a'i nith.
 
Bu farw Eusebi Güell yn ei dŷ yn 1918, ac fe'i gwerthwyd i Gyngor y Ddinas gan ei ddisgynyddion ar 26 Mai 1922. Yn 1926 agorodd fel parc cyhoeddus.
[[Delwedd:Guell-3.jpg|thumb|centre|1000px|Panoràmica de l'entrada del Park Güell.]]
 
==Y parc heddiw==
Addaswyd tŷ Güell yn ysgol, ac fe'i henwyd ar ôl yr athro Baldiri Reixac, a throwyd y rhan ar y chwith iddo'n ardd flodau gan y Cyngor. Agorwyd tŷ Gaudi fel amgueddfa ar gyfer y cyhoedd yn 1963. Ers 2013 mae'r mynediad am ddim i'r prif barc ond codir am y prif lefydd unigol megis cartref Gaudí.
 
Mae un o'r adeiladau'n cynnwys arddangosfa barhaol, sef Amguaddfa Hanes Dinas Barcelona (''MUHBA'') sy'n canolbwyntio ar yr adeilad ei hun, y parc ac i raddau ar y ddinas.<ref>{{cite web|title=MUHBA Park Güell|url=http://museuhistoria.bcn.cat/en/node/654}}</ref><ref>[https://www.youtube.com/watch?v=fXEGigoEa5k Virtual tour of MUHBA Park Güell]</ref>
 
Y prif ffocws, neu ganolbwynt, ydy'r prif deras, gyda'i neidr-ddŵr hir sydd hefyd yn fainc i eistedd arni. Gan ei bod yn grom ac yn troelli, ceir nifer o rannau cyfrin, lle gellir cael sgwrs breifat neu gariadus. Ynglwm yn y fainc yma mae llawer o symbolau o genedlaetholdeb Catalwnia, a rhai'n ymwneud â chrefydd, cyfriniaeth a hen farddoniaeth ei genedl.
 
Ceir ffyrdd a llwybrau o amgylch y parc, er mwyn gwasanaethu'r tai a'r adeiladau, a lluniwyd y rhain gan Gaudí: maent yn strwythurau diddorol sy'n bochio allan o'r allt serth mewn ffyrdd dramatig, neu'n rhedeg ar hyd neu o dan y draphont.
 
Roedd hyn yn lleihau'r ymwythiad annaturiol o gael ffyrdd yn creithio'r parc, ac fe'u cynlluniwyd gan Gaudí i'w creu gyda charreg o'r parc ei hun, ac felly roeddent yn cydweddu â'r amgylchedd. Mae ei ffurfiau'n adleisio ffurfiau byd natur, bron yn ddieithriad, e.e. colofnau ar ffurf bonion coed neu ganghennau'n cynnal to neu lwybr troed yn debyg i'r hyn a wnaeth yn eglwys Colònia Güell.<ref name=works>http://me-wserver.mecheng.strath.ac.uk/group2003/groupl/Inspirational%20people/Antoni%20Gaudi_files/Antoni%20Gaudi.htm</ref>
 
Ar y copa eitha, gosodwyd croes fawr, ac oddi yno gellir gweld y ddinas, y môr a'r bae, ac mae'r Sagrada Família a [[Montjuïc]] hefyd i'w geld. ceir yn y parc amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt; mae'r parot yn enghraifft dda o rywogaeth annaturiol sydd wedi mabwysiadu'r parc mewn modd cwbwl naturiol. Mae'r eryr bodiau-bychan a'r gwyfyn ''Macroglossum stellatarum'' hefyd wedi mabwysiadu'r parc yn gynefin naturiol.
 
==Oriel==
<gallery>
Image:View from Park Güell Terrace.jpg|Yr olygfa o'r parc o'r teras
image:Goelenterance06390139.JPG|Y fynedfa
image:Goeldoric06390141.JPG|Colofnau Doric yn cynnal y to'r cwrt gwaelod, gyda seddi o'i amgylch
image:Goelbench06390140.JPG|Y seddi nadreddog
image:Goelbirdnests06390137.JPG|Nyth aderyn a adeiladwyd gan Gaudí yn wal y teras
image:GuellTerraceSeperate.jpg|Waliau'r teras
image:Goelwalways06390156.JPG|Llwybr yn cael ei gynnal gan golofnau bras
Image:Parc Güell viaduct.jpg|Dyfrbont
Image:Parc Guell 10.jpg|Llwybr colofnog o dan y dyfrbont
Image:Colonnadeparkguell.jpg|Llwybr colofnog
Image:Barcelona 29-04-2006 11-29-38.JPG|Un teil
Image:Park Güell - Pabellón de entrada.jpg|Y Pafiliwn ger y brif fynedfa
Image:Escalinata de entrada del Park Güell.jpg|Y ffynnon ger y fynedfa, gyda draig
Image:Casa Martí Trias i Domènech.jpg|Casa Martí Trias i Domènech
File:Panoramic view of the entrance to the Park Güell. Barcelona, Catalonia, Spain.jpg|Llun panorama o'r brif fynedfa i'r parc
File:A musician playing among columns of Sala Hipóstila, Park Güell ( UNESCO World Heritage Site), hill of El Carmel, Gràcia (district), Barcelona, Catalonia, Spain.jpg|Cerdor wrth ei waith ger y Sala Hipóstila, Park Güell
</gallery>
 
==Cyfeiriadau==