Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd Y % yn gallu siarad Cymraeg, 2001
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:LogoMap Cyfrifiad2 y- DUY % yn gallu siarad Cymraeg, 2001 B.svgpng|bawd|dde|200px|LogoY ganran a oedd Cyfrifiadyn ygallu Deyrnassiarad UnedigCymraeg, 2001]]
[[Delwedd:Map 23 - Y %Nifer yn gallu siarad Cymraeg, 2001 tud 22 B.png|bawd|Y ganrannifer a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 2001, fesul cymuned.]]
 
Cynhalwyd [[cyfrifiad]] o bob rhan o'r [[DU]], a adnabyddir yn gyffredinol fel '''Cyfrifiad 2001''', ar ddydd Sul [[29 Ebrill]] [[2001]]. Hwn oedd y 19fed gyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd Cyfrifiad 2001 gan y [[Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]] yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]], a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr [[Alban]] a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]]. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau.
 
==Ffrae'r blwch cenedligrwydd==
[[Delwedd:Map 2 - Y % yn gallu siarad Cymraeg, 2001 B.png|bawd|Y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 2001]]
Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd y Cyfrifiad yn cynnwys blwch i nodi [[Cymry|cenedligrwydd Cymreig]].<ref>[http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/census-2001/design-and-conduct/review-and-evaluation/evaluation-reports/a-report-on-the-2001-census-in-wales/general-report-on-the-2001-census-in-wales---welsh.pdf Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]; adalwyd 20 Ionawr 2013</ref> Gwrthodai sawl person lenwi'r ffurfleni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel "[[Prydeindod|Prydeinwyr]]", er i'r awdurdodau fygwth dwyn y gyfraith ar unrhyw un a wnai hynny. Gan fod rhai miloedd, o leiaf, wedi gwrthod, ni chafwyd achosion llys yn erbyn y rhai a oedd yn gwrthod. Yn ogystal â'r rhai a wrthododd yn llwyr, penderfynodd nifer [15.7%] o'r boblogaeth ysgrifennu "Cymro" yn lle ticio'r blwch yn nodi "Prydeinwr(aig) gwyn" neu anwybyddu'r cwestiwn.<ref>[http://www.ons.gov.uk/ons/guide-method/census/census-2001/design-and-conduct/review-and-evaluation/evaluation-reports/quality-report/census-2001-quality-report.pdf] Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]; adalwyd 19 Ionawr 2012</ref> Roedd 3,700 wedi glynu sticer dros y cwestiwn.
[[Delwedd:Logo Cyfrifiad y DU 2001.svg|bawd|chwith|200px|Logo Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001]]
 
==Ffrae'r iaith Gymraeg==