Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Cymru: Y diaspora Cymraeg
Llinell 16:
Gan nad oes cymunedau brodorol o siaradwyr Cymraeg tramor—ag eithriad Gwladfa'r Ariannin efallai—di-Gymraeg fydd mwyafrif mawr y mewnfudwyr pryn ai o wledydd eraill Prydain neu o dramor y byddant yn dod. Cymry Cymraeg sy'n dychwelyd ar ôl allfudo mewn blynyddoedd blaenorol fydd y mwyafrif mawr o'r siaradwyr Cymraeg sy'n mewnfudo'n amlwg. Gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2001 gallwn amcangyfrif bod 3,600 o siaradwyr Cymraeg wedi mewnfudo i Gymru yn ystod y 12 mis cyn y Cyfrifiad—yn bennaf, mae’n debyg, myfyrwyr Cymraeg yn dychwelyd i Gymru ar ôl astudio mewn prifysgol yn Lloegr. Hyd yn oed pe bai’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yn sefydlog, un canlyniad mewnfudo fyddai bod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gostwng.
 
Ond gallwn ddisgwyl bod allfudiad net o siaradwyr Cymraeg, hynny yw, mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn symud o Gymru nac sy’n symud yn ôl.
 
=== Allfudo o Gymru ===
Yn y 12 mis cyn Cyfrifiad 2001 amcangyfrifir fod 5,200 o siaradwyr Cymraeg wedi allfudo, gydag ychydig dros 30% yn allfudo a ddim yn dychwelyd. Yr hynsy'n arwyddocaol o ran cynaladwyedd y Gymraeg ymhlith poblogaeth Cymru yw bod allfudiad net. Golyga hynny bod yn rhaid, os am gynnal niferoedd presennol y siaradwyr, atgynhyrchu (trwy drosglwyddiad iaith rhwng y cenedlaethau) neu gynhyrchu (trwy addysg) mwy o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn nagsy’n marw, dim ond er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad.
 
=== Y diaspora Cymraeg ===
Canlyniad allfudo yw bod ‘Cymry ar wasgar’, hynny yw, bod poblogaeth o Gymry'n byw mewn gwledydd eraill a bod rhai ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Cymharol ychydig o wledydd sy'n cynnwys cwestiynau am ieithoedd yn eu cyfrifiadau ac os nad oes cwestiwn yn cael ei ofyn, rhaid dibynnu ar amcangyfrifon. Dyna sydd yn rhaid ei wneud yn achos Lloegr. Yn achos [[Canada]], [[Awstralia]], [[Seland Newydd]] a'r [[Unol Daleithiau]] – rhai o'r gwledydd pwysicaf o ran allfudo o Gymru – mae peth tystiolaeth ar gael o'u cyfrifiadau. Ac eithrio Lloegr, niferoedd bychain o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn y gwledydd eraill ac nid ydynt yn ddigon mawr i’w hystyried fel poblogaethau a allai effeithio’n sylweddol ar ddemograffi Cymru wrth i siaradwyr, neu eu disgynyddion, ddychwelyd i Gymru ar ryw adeg. Er hynny, mae’n werth nodi nad oes data cyfrifiad ar gael o’r [[Ariannin]] ac felly nid oes amcangyfrif cadarn o
faint sy’n siarad Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r amcangyfrif o 25,000 a ddyfynnir yn Ethnologue yn annhebygol o uchel. Amcangyfrif arall oedd bod o gwmpas 5,000 o siaradwyr yno yn ail ddegawd yr [[20fed ganrif]].
 
==Mewnfudo i America o Gymru==