Diffeithwch Syria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 24 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q339162 (translate me)
B newid hen enw, replaced: Saudi Arabia → Sawdi Arabia using AWB
Llinell 1:
Ardal eang o [[anialwch|dir anial]] yn y [[Dwyrain Canol]] yw '''Diffeithwch Syria''' neu '''Anialwch Syria''' ([[Arabeg]]: ''Badiyat ash-Sham''). Mae'n ddiffeithwch lled uchel sy'n cyrraedd 1128m yn ei bwynt uchaf. Diffeithwch carregog ydyw'n bennaf, yn hytrach nag [[anialwch]] tywodlyd. Ffurfiwyd tirwedd unigryw y diffeithwch gan lifau [[lafa]] o ardal [[llosgfynydd|folcanig]] [[Jebel Druze]] yn ne [[Syria]].
 
Yn ddaearyddol, mae'n gorwedd rhwng y [[Lefant]] i'r gorllewin a [[Mesopotamia]] i'r dwyrain. Yn nhermau [[daearyddiaeth wleidyddol]], mae'n cynnwys de-ddwyrain Syria ei hun, rhan o ddwyrain [[Gwlad Iorddonen]], gorllewin [[Irac]] a rhan fach o ogledd-orllewin [[SaudiSawdi Arabia]]. Fe'i gelwir yn Ddiffeithwch Syria am ei fod yn rhan o [[Bilad al-Sham|Syria Fawr]].
 
Mae Diffeithwch Syria wedi bod yn groesfan ers gwawr hanes ond ni cheir unrhyw dref fawr yn y diffeithwch ei hun. Ar ei ymyl ogledd-orllewinol ceir safle dinas [[Palmyra]], un o ''entrepôts'' mawr y Dwyrain Canol yng nghyfnod yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Mae llwythau [[Bedouin]] wedi byw yn y diffeithwch ers canrifoedd lawer; heddiw mae'r rhan fwyaf yn byw mewn trefi a phnetrefi bychain ger yr ychydig [[gwerddon|werddonau]] ffrwythlon, ond mae rhai Bedouin yn dal i fyw yn y ffordd draddodiadol yn y diffeithwch ei hun.
Llinell 7:
Ceir [[arysgrif]]au [[Safaitig]] (testunau proto-[[Arabeg]] a ysgrifenwyd gan Bedouin [[llythrennedd|llythrennaidd]]), ar draws y ddiffeithwch. Mae'r rhain yn dyddio o tua'r [[ganrif 1af CC]] hyd y [[4edd ganrif]] OC.
 
Dim ond dwy ffordd o bwys sy'n croesi'r diffeithwch. Rhed y pwysicaf rhwng [[Damascus]], prifddinas Syria, a thref [[Ar Rutbah]] yn Irac ac ymlaen i [[Baghdad]]. Mae ffordd arall dros y diffeithwch rhwng [[Amman]] ac Ar-Rutbah.
 
==Rhyfel Irac==