Môr Arabia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B newid hen enw, replaced: Sri Lanka → Sri Lanca, Yemen → Iemen (2) using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:Kannurfort1.JPG|thumb|top|Golygfa ar Fôr Arabia o Gaer St. Angelo yn [[Kerala]], de [[India]]]]
 
Rhanbarth o [[Cefnfor India|Gefnfor India]] a ffinir i'r dwyrain gan [[India]], i'r gogledd gan [[Iran]] a [[Pacistan]], i'r gorllewin gan [[Arabia]], ac i'r de gan linell ddychymygol rhwng [[Penrhyn Guardafui]] yn [[Somalia]] ([[Puntland]]), ynysoedd [[Socotra]], a [[Penrhyn Comorin]] (Kanyakumari) yn India yw '''Môr Arabia''' ([[Arabeg]]: بحر العرب ; ''Bahr al-'Arab'').
 
Ei led mwyaf yw tua 2400 km, a'i ddyfnder mwyaf yw tua 4652 medr, ger arfordir deheuol [[India]]. [[Afon Indus]] yw'r afon fwyaf sy'n llifo i'r môr hwn. Gelwir arfordir canolbarth India ar y môr hwn yn [[arfordir Konkan]], a'r arfordir yn ne India yn [[arfordir Malabar]]. Yn y gogledd gorwedd tir anial [[Makran]], yn [[Iran]] a Pacistan, ar y môr.
Llinell 8:
Mae gan Môr Arabia ddwy fraich fawr, sef [[Gwlff Aden]] yn y de-orllewin, sy'n cysylltu i'r [[Môr Coch]] trwy gulfor [[Bab al Mandab]], a [[Gwlff Oman]] yn y gogledd-orllewin, sy'n ei gysylltu â [[Gwlff Persia]]. Yn ogystal ceir [[Gwlff Cambay]] a [[Gwlff Kutch]] ar arfordir [[isgyfandir India]]. Ychydig o ynysoedd a geir yn y môr. Maent yn cynnwys [[Socotra]] oddi ar [[Corn Affrica|Gorn Affrica]] ac ynysoedd [[Lakshadweep]], oddi ar arfordir India.
 
Mae gan [[India]], [[YemenIemen]], [[Oman]], [[Iran]], [[Pacistan]], [[Sri LankaLanca]], y [[Maldives]], a [[Somalia]] arfordir ar Fôr Arabia.
 
Mae'r dinasoedd ar ei lannau yn cynnwys [[Mumbai]] (Bombay), [[Surat]], [[Goa]], [[Mangalore]], a [[Kochi,India|Kochi]] yn [[India]], [[Karachi]] yn [[Pakistan]], [[Aden]] yn [[YemenIemen]], [[Salalah]] yn [[Oman]], [[Chabahar]] yn Iran, a [[Mogadishu]] yn [[Somalia]].
 
Ers canrifoedd lawer mae Môr Arabia wedi bod yn dramwyfa i longau masnach yn cludo nwyddau a phobl rhwng y [[Dwyrain Canol]] (yn enwedig [[yr Aifft]], [[Arabia]] a [[Mesopotamia]]) ac isgyfandir India ar y llwybr i [[De-ddwyrain Asia|dde-ddwyrain Asia]]. Roedd masnach hefyd rhwng India ac Arabia a Dwyrain Affrica. Prif gynheiliaid y fasnach hon oedd yr [[Arabiaid]] yn eu [[dhow]]s, ond roedd yn ddibynnol ar wyntoedd tymhorol y [[monsŵn]] cyn gyfnod y llongau modern.