Pampa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newid yr wyth olaf yn y rhestr i orgraff newydd wici, replaced: Uruguay → Wrwgwái using AWB
B newid hen enw, replaced: Uruguay → Wrwgwái (3) using AWB
Llinell 2:
 
[[Delwedd:Pantanal, south-central South America 5170.jpg|thumb|right|240px|Golygfa o'r awyr o lynnoedd y Pampas (ger Buenos Aires)]]
Y '''Pampas''' ('''pampa''' : benthycair o'r iaith [[Quechua]], sy'n meddwl "gwastadedd") yw'r [[gwastadedd]]au ffrwythlon yn iseldiroedd [[De America]] sy'n cynnwys taleithiau [[Talaith Buenos Aires|Buenos Aires]], [[La Pampa]], [[Talaith Santa Fe|Santa Fe]], a [[Talaith Córdoba|Córdoba]] yn yr [[Ariannin]], rhan helaeth o [[UruguayWrwgwái]], a phwynt deheuol [[Brasil]], sef y [[Rio Grande do Sul]], ac sy'n cynnwys dros 750,000 [[km²]] (290,000 milltir sgwar). Dim ond bryniau isel Ventana a Tandil ger [[Bahía Blanca]] a [[Tandil]](Ariannin), sy'n cyrraedd 1,300 m a 500m, sy'n torri ar undonedd y gwastadeddau anferth hyn. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y [[pridd]] yn addas ar gyfer [[amaethyddiaeth]].
 
Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r [[coeden|coed]]. Mae "Gwair Pampas" (''[[Cortaderia selloana]]'') yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.
 
Gellid rhannu'r pampas yn dair ardal [[ecoleg]]ol. Gorwedd [[safana UruguayWrwgwái]] i'r gorllewin o [[afon UruguayWrwgwái]], ac mae'n cynnwys y cyfan o Wrwgwái a rhan ddeheuol Rio Grande do Sul ym Mrasil. Mae'r [[Pampas Gwlyb]] yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r [[Pampas Sych]], lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd [[espinal]] yr Ariannin.
 
Ar bampas canolbarth yr Ariannin ceir busnesau amaethyddol llwyddianus, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y Pampas i'r de a'r gorllewin o [[Buenos Aires]]. Mae ffawydd [[soi]] yn nodweddiadol a phwysig. Mae rhan helaeth yr ardal yn gartref i ffermydd lle megir [[gwartheg]] yn ogystal. Ond mae llifogydd yn broblem ar y tiroedd amaethyddol artiffisial hyn.