Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Môr Du"

Lleihawyd o 3 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
newid hen enw, replaced: Wcráin → Wcrain using AWB
B (clean up, replaced: Wcráin → Wcrain using AWB)
B (newid hen enw, replaced: Wcráin → Wcrain using AWB)
[[Delwedd:Morzeczarne1.jpg|bawd|200px|Y Môr Du ym Mwlgaria]]
 
Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain [[Ewrop]] ac [[Asia Leiaf]] ydy'r '''Môr Du''' (''Pontus Euxinus'' y [[Gwlad Groeg|Groegiaid]]). Mae'n cysylltu â'r [[Môr Canoldir]] trwy [[culfor|gulfor]] [[Bosporus]] a [[Môr Marmara]], ac â [[Môr Azov]] trwy [[Culfor Kerch|Gulfor Kerch]].
 
Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw [[Afon Donaw]]. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.
 
Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw [[Twrci]], [[Bwlgaria]], [[Romania]], [[WcráinWcrain]], [[Rwsia]] a [[Georgia]]. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcrain yw'r [[Crimea]].
 
Mae'r dinasoedd mwyaf ar arfordir y Môr Du yn cynnwys [[Istanbul]] (''[[Caergystennin]]'' neu ''[[Byzantium]]'' gynt), [[Burgas]], [[Varna]], [[Constanta]], [[Tulcea]], [[Yalta]], [[Odessa]], [[Sevastopol]], [[Batumi]], [[Trabzon]], [[Samsun]] a [[Zonguldak]].
Mae rhai arbennigwyr yn meddwl mai'r tiroedd o amgylch y Môr Du oedd cartref gwreiddiol y [[Proto-Indo-Ewropeaidd]], ond mae eraill yn meddwl fod hynny i'w lleoli rhywle yng nghyffiniau [[Môr Caspia]].
 
Ym [[1997]] cyhoeddwyd damcaniaeth gan William Ryan a Walter Pitman o [[Prifysgol Columbia]] fod gorlif fawr iawn wedi rhedeg trwy'r [[Bosporus]] tua'r flwyddyn [[5600 CC]]. Milau o flynyddoed cyn hynny roedd dŵr oedd yn dod o [[rhewlif|rewlifau]] wedi toddi yn llifo i'r Môr Du a Môr Caspia a fel hynny roedd eu lefelau'n codi. Pan ddiflanodd y rhewlifau aeth dŵr yr afonydd yn llai a gostyngodd lefelau'r Môr Du a'r Môr Caspia eto. Ar ôl hynny, o gwmpas 5600 C.C., cododd lefelau'r moroedd eraill a gorlifodd y Môr Canoldir i'r Môr Du. Mewn canlyniad roedd tua 155,000 km² (tua 60,000 milltir²) o dir dan dŵr a newidiwyd y Môr Du o lyn dŵr ffres i fôr dŵr hallt.
 
Mae'n debyg i'r bobl a oedd yn dianc am eu bywyd ffoi i'r gogledd-orllewin i Ewrop a lledaenu [[amaethyddiaeth]] yno. Mae'n bosib hefyd fod y cof am y gorlif hon wrth wraidd y traddodiad am y [[Dilyw]] yn y [[Beibl]].