Wicipedia:Cymorth iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 467:
 
:Yn ôl Peter Wynn Thomas yn ei lyfr ''Gramadeg y Gymraeg'': "Llythyren fach a ddefnyddir fel rheol wrth ysgrifennu'r fannod pan fydd yn elfen gyntaf mewn enw lle a heb ddod ar ddechrau brawddeg, e.e. ''yn y Rhyl''." Y fach dylai fod mewn enwau erthyglau fel [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin]], [[Hanes yr Almaen]], [[Llywodraeth yr Alban]], ayyb, ond does dim o'i le ar ddefnyddio Y fawr mewn rhestr neu nodyn, pan fo'r enwau ar ben eu hunain ac nid yn rhan o frawddeg. (Sylwch ar nodiadau megis [[Nodyn:Cymraeg]] a [[Nodyn:Rhyw]], mae pob dolen yn dechrau gyda llythyren fawr hyd yn oed os nad yw'n enw priod.) —[[Defnyddiwr:Adam|Adam]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adam|sgwrs]] • [[Arbennig:Contributions/Adam|cyfraniadau]]) 16:45, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)
 
==Golygathon cyfieithu "yr oedd"==
O ran diddordeb, be sy'n bod efo''Yr Oedd'', onid ydyw'n Gymraeg cywir yn ôl ''Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ''? Ac o chwilota yn y geiriaduron mae ''roedd'' (efo collnod) yn cael ei ddisgrifio fel talfyriad o ''yr oedd''. Dydy Cysill dim yn codi ''yr oedd'' fel camgymeriad ieithyddol. Pan oeddwn yn ceisio dysgu'r Gymraeg yn Ysgol y Gader llawer blwyddyn yn ôl, ''yr oeddwn'' yn cael fy meirniadu am ddiogi wrth ysgrifennu ''roedd'' yn hytrach nag ''yr oedd'' a ''mae'n'' yn hytrach na ''mae yn'', pa bryd y penderfynwyd bod JMJ yn anghywir ei gystrawen?
 
Y brif reswm dros gyhoeddi ''Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ'', oedd bod gan bron i bob newyddiadur Cymraeg rheolau cystrawen annibynnol, amhosibl eu dilyn, os oedd dyn am gyfrannu at sawl gyhoeddiad, Y Dydd, Y Goleuad a Llais y Werin ee.
 
Rwy'n melltithio JMJ am safoni'r Gymraeg ar Gymraeg Môn, llawer gwell pe byddai wedi gwrando ar Gymraeg De Meirionnydd a Gogledd Maldwyn er mwyn cydbwysedd, ond cafwyd safon; safon lle 'roedd ''roedd'' ac ''yr oedd'' yn dderbyniol. Onid oes berygl mynd yn ôl i'r dyddiau du cyn y ''Gymraeg a'i Gystrawen'' trwy greu safon iaith ''golygyddawl'' i'r wici trwy newid manion megis ''yr oedd ''(Cymraeg cywir) i ''roedd'' (Cymraeg cywir)?